Adoygiad blynyddol 2006/7
Astudiaeth Achos 3
Helen Reynolds, Swyddog Gweithredol Busnes Newydd y Gadwyn Matrics
Bu diddordeb gen i erioed yn rhaglen e-drawsgludo'r Gofrestrfa Tir ac ymunais i â Thîm Busnes Newydd y Gadwyn Matrics yng Ngorffennaf 2006.
Dechreuodd fy rôl gyda hyfforddiant gwerthu a marchnata dwys ac ehangu fy ngwybodaeth o e-drawsgludo a'r Gadwyn Matrics. Drwy ddefnyddio fy hyfforddiant a theilwra fy null gweithio yn ôl anghenion cwsmeriaid unigol, a'u gwybodaeth bresennol o'r cynnyrch, llwyddais i gael llawer i gymryd rhan yn y prototeip o'r Gadwyn Matrics, a oedd yn hynod o werth chweil.
Teimlais fy mod wedi cyfrannu at lwyddiant y Gofrestrfa Tir pan oedd e-drawsgludo wedi cwrdd â'i dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer y Gadwyn Matrics ym mis Mawrth. Erbyn hyn, rwy'n edrych ymlaen at gynorthwyo cwsmeriaid drwy gyfnod y prototeip a chael eu hadborth er mwyn sicrhau bod e-drawsgludo yn cael ei ddatblygu'n llwyddiannus yn y dyfodol.