Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Adolygiad ar-lein 2006/7 Astudiaeth Achos 4 Contents Previous Next

Paul Heywood, Rheolwr Cyfrif, Swyddfa Coventry

Ces i gyfle i ymuno â'r Tîm Gwasanaethau Masnachol ym mis Rhagfyr 2005.

Roedd y swydd yn apelio ata i oherwydd ei bod yn rhoi cyfle i mi werthfawrogi marchnadoedd masnachol ehangach. Rwy'n gallu mynd allan i weld cwsmeriaid yn rheolaidd a chael gwybod beth maen nhw'n ei wneud a sut mae hyn yn ymwneud â'n busnes ni.

I ddechrau roeddem yn ymateb i geisiadau cwsmeriaid yn ôl y galw ond erbyn hyn mae tîm ymchwil marchnata gennym sy'n mynd i'r sectorau marchnad amrywiol i ystyried ceisiadau penodol a chael gwybod sut maen nhw'n defnyddio ein data. Yna mae'r tîm yn casglu gwybodaeth i weld pa gynhyrchion y gallwn eu datblygu.

Mae amrywiaeth o gleientiaid gennym sy'n gweithredu mewn sectorau marchnad gwahanol. Mae Golwg ar Eiddo a Chyfateb Data, er enghraifft, yn boblogaidd gyda gwerthwyr tai a chwmnïau rheoli credyd.

Mantais gwasanaethau masnachol i ni yma yn y Gofrestrfa Tir yw eu bod yn darparu refeniw ychwanegol a hefyd yn bodloni anghenion cwsmeriaid mewn ffordd fwy hyblyg.