www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Pridiannau Tir Contents Previous Next

    Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol

    Mae'r Adran Pridiannau Tir yn cadw cofrestri o bridiannau tir, gweithrediadau sy'n aros, gwritiau a gorchmynion sy'n effeithio ar dir a llyffetheiriau eraill sydd wedi'u cofrestru yn erbyn enwau perchnogion eiddo sydd heb ei gofrestru o dan y Deddfau Cofrestru Tir.

    Mae'r Adran Credydau Amaethyddol yn gyfrifol am gadw cofrestr o fenthyciadau tymor byr gan fanciau. Gwarentir y pridiannau hyn ar stoc ffermio ac asedau amaethyddol eraill.

    Cyfanswm cyfunedig y ceisiadau a gafodd eu trin gan yr Adrannau Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol y flwyddyn hon oedd 5,222,236, sy'n gynnydd o 0.7 y cant o'i gymharu â'r cyfanswm ar gyfer 2005/6. Roedd hyn i'w briodoli'n bennaf i gynnydd yn nifer y ceisiadau cofrestru methdaliad.

    Cynyddodd cyfran y ceisiadau am chwiliadau a chopïau swyddogol a dderbyniwyd dros y ffôn, mynediad uniongyrchol a'r ffacs i 83 y cant o’r cyfanswm (wedi cynyddu o 76 y cant) gydag 84 y cant o geisiadau am gopïau swyddogol yn cael eu cyflwyno fel hyn.

    Erbyn hyn mae chwe deg dau y cant o chwiliadau pridiannau tir yn cael eu prosesu trwy'r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol a'r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol. Gostyngodd canran y chwiliadau ffôn a gwblhawyd fel cyfran o gyfanswm y ceisiadau am chwiliadau i 20 (i lawr o 30 y cant).