Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Y Gofrestr Tir Ar-lein

Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Adoygiad blynyddol 2006/7 Prydlesi cymalau penodedig Contents Previous Next

Prydlesi cymalau penodedig

Ym mis Mehefin 2006 cyflwynwyd prydlesi cymalau penodedig. Mae'n rhaid i gyfres safonol o gymalau ymddangos erbyn hyn ar ddechrau rhai prydlesi cofrestradwy. Cafodd cwsmeriaid eu hannog i roi adborth i ni ar y cymalau yn ystod cyfnod o ddefnydd gwirfoddol o 9 Ionawr i 19 Mehefin, pan wnaethpwyd y cymalau'n orfodol.

Roedd ymgyrch gyhoeddusrwydd ac addysg helaeth a llinell gymorth arbennig wedi darparu gwybodaeth a chymorth i gwsmeriaid. Penodwyd hyrwyddwyr ym mhob swyddfa'r Gofrestrfa Tir a dilynodd staff penodol raglen hyfforddi gynhwysfawr er mwyn gallu cynorthwyo gydag ymholiadau.

Roedd pecyn gweithredu yn cynnwys nodiadau canllaw, yn ogystal â chyflwyno Cyfarwyddyd Ymarfer 64, yn canolbwyntio'n benodol ar y pwnc, wedi cyfrannu at weithrediad llwyddiannus y system newydd.