www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Datblygu'r gofrestr Contents Previous Next

    Datblygu'r gofrestr

    Mae creu cofrestr tir gynhwysfawr yng Nghymru a Lloegr yn hollbwysig i'r Gofrestrfa Tir. Bydd yn golygu bod y diogelwch cyfreithiol gorau posibl gan bob tirfeddiannwr cofrestredig ac yn gwneud prynu a gwerthu eiddo yn haws i bawb. Ar hyn o bryd mae 40 y cant o'r arwynebedd tir yng Nghymru a Lloegr heb ei gofrestru oherwydd nad yw nifer o gartrefi ac ystadau, er enghraifft, wedi cael eu gwerthu, eu morgeisio neu eu hail-forgeisio ers cyflwyno cofrestru gorfodol yn eu hardal.

    Mae timau datblygu'r gofrestr y Gofrestrfa Tir, sy'n gweithio ym mhob un o'n swyddfeydd lleol, wedi wynebu'r her o annog tirfeddianwyr digofrestredig i gofrestru'n wirfoddol, gan ein helpu i gyrraedd ein targed ar gyfer 2006/7 sef cofrestru 700,000 hectar arall o dir, sy'n cyfateb yn fras i 5 y cant o Gymru a Lloegr.Ymhlith rhai o'r cofrestriadau newydd roedd eiddo ystadau proffil uchel, tirfeddianwyr ac asiantaethau'r llywodraeth. Roedd eraill yn adeiladau hanesyddol y bydd eu cadwraeth yn cael eu gwella drwy ddiogelwch cofrestru.

    Mae ein hymgyrch yn y cyfryngau yn golygu y bu rheolwyr datblygu'r gofrestr yn siarad yn uniongyrchol â gohebwyr papurau newydd, teledu a radio, am y tro cyntaf erioed yn aml. Mae hyfforddiant yn y cyfryngau wedi eu helpu i baratoi ar gyfer y profiad. Maen nhw wedi cynnal un cyfweliad ar ôl y llall ar brydiau, gan newid cyfrwng drwy gydol y dydd.