Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Adolygiad ar-lein 2006/7 Ein technoleg Contents Previous Next

Ein technoleg

Mae gan y Gofrestrfa Tir hanes cryf ym maes arloesedd ac arferion technolegol. Mae ein gwasanaethau newydd yn electronig yn bennaf, naill ai wedi'u darparu i'n deiliaid cyfrif credyd neu'r cyhoedd drwy ein gwefannau. Roedd e-drawsgludo, a fydd yn gwneud y broses drawsgludo yn hollol electronig, wedi cymryd cam mawr ymlaen y flwyddyn ddiwethaf gyda lansio prototeip o'r Gadwyn Matrics ar-lein ar 29 Mawrth 2007.

Wrth i'r gwaith a dderbynnir gynyddu, mae prosesu gwaith achos yn fewnol wedi cynyddu'n sylweddol. Mae ein gweinydd cynhyrchu newydd wedi cynyddu ein gallu cyfrifiadurol mewnol. Rydym wedi cynnal treial llwyddiannus o dechnoleg cronfa ddata newydd. Yn dilyn hyn, mae strategaeth newydd ar gyfer is-adeiledd gwybodaeth ofodol wedi cael ei chymeradwyo.

Mae nifer cynyddol o ymwelwyr yn cael eu denu at y Gofrestr Tir Ar-lein drwy nodweddion newydd fel y Lleolwr Tir o'r Awyr, sy'n adnabod teitlau eiddo drwy ddefnyddio mapiau a ffotograffau o'r awyr. Mae gwasanaethau a ddarperir drwy e-sianeli yn cynhyrchu tua 15 y cant o'n cyfanswm incwm erbyn hyn.

Bydd mynediad i wybodaeth ar wefan y Gofrestrfa Tir yn cael ei wella'n sylweddol drwy greu dyfais newydd o'r enw porth. Bydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni o ran darparu gwasanaethau, ac yn cynnig modd i ni wasanaethu gwahanol grwpiau o ymwelwyr yn y ffordd orau iddyn nhw.

Hefyd, rydym yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf o fewn y sefydliad, yn fwyaf diweddar drwy gyflwyno'r Porth AD, sef system rheoli amser a chyflogres AD ar-lein.