Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Y Gofrestr Tir Ar-lein

Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Adoygiad blynyddol 2006/7 Astudiaeth achos 10 Contents Previous Next

David Brown, Prif Gyfreithiwr yn Abbey Law

Mae'r amrywiaeth o wasanaethau ar-lein a ddarperir gan y Gofrestrfa Tir yn ddefnyddiol ac yn fuddiol tu hwnt, gan ddarparu sicrwydd a chyflymder. Mae'r dulliau cwblhau ceisiadau yn hyn o beth yn ystyriol iawn o'r defnyddiwr.

Mae'n hanfodol eich bod yn gallu gweld y gofrestr ar unwaith ac yn ei ffurf ddiweddaraf. Mae gallu ei gweld ar-lein yn golygu bod modd gwneud penderfyniadau ar unwaith a rhoi cyngor i gleientiaid a fyddai fel arall wedi gorfod aros i dderbyn cofnodion copi swyddogol dros y ffôn neu gais drwy'r post.

Gallwch feddwl am sefyllfaoedd lle mae copi papur yn cyrraedd yn rhy hwyr ar gyfer trafodiad neu benderfyniad arbennig. Mae'r byd sydd ohoni yn mynnu bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n gyflym ac yn naturiol ddigon mae'n ddiamynedd mewn achosion lle mae darparu gwybodaeth wedi'i oedi oherwydd y broses law.

Am y tro cyntaf mae'r gwasanaeth e-gyflwyno yn galluogi ymarferwr i gyflwyno cais ar-lein drwy wasgu botwm, sy'n cynnig gwasanaeth uniongyrchol a sicrwydd. Yn olaf, ond nid y lleiaf, mae'r fantais ymarferol o beidio â dibynnu ar unrhyw drydydd parti ar gyfer cyflwyno cais, boed drwy'r post, cyfnewid dogfennau, neu ddull arall o gyflwyno corfforol.

Mae'r cyflymder a'r sicrwydd a ddarperir gan y gwasanaethau hyn heb ei ail.