Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Y Gofrestr Tir Ar-lein

Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Adoygiad blynyddol 2006/7 Astudiaeth achos 11 Contents Previous Next

Helen Clarke, gweithiwr cais rheng-flaen ar y prosiect LlRhGA

Er bod maint y prosiect yn ddigon i ddychryn unrhyw un, roeddwn i'n edrych ymlaen at y cyfle i gymryd rhan. Roeddwn i wedi llawn sylweddoli'r anawsterau a fyddai'n codi, ond gofynnais i'n hunan beth oedd realiti trosglwyddo'r data daearyddol map mynegai fector i'r manylion Arolwg Ordnans diweddaraf, a fyddai fy marn yn cael ei chymryd o ddifrif ac a fyddai'r Bwrdd yn cefnogi fy nghais i ymgymryd â thasg mor enfawr. Yr ateb i'r tri chwestiwn, yn rhyfedd ddigon, oedd ie!

Mae defnyddwyr pen-blaen wedi chwarae rhan uniongyrchol gyda'r datblygwyr. Rwyf wedi teithio o Telford i Plymouth sawl gwaith i eistedd gyda rheolwyr prosiect a datblygwyr i gynnal trafodaethau hir a manwl ym mhob cam am olwg sgrin a chlicio llygoden.

Mae gweld y system yn dod yn fyw o'r geiriau sydd wedi cael eu trafod yn hollol wych. Rwy'n teimlo'n falch fy mod wedi chwarae rhan mor anhepgor o'r broses feddwl gychwynnol ac mae ffydd gen i yn y system sy'n cael ei datblygu. Mae wedi'i symleiddio ac yn ystyriol o'r defnyddiwr a bydd yn ei gwneud hi'n bosibl i gynnwys map mynegai fector ar fanylion cyfredol yr Arolwg Ordnans.

Mae bod yn rhan o un o brosiectau mwyaf y Gofrestrfa Tir wedi bod yn gyfle gwych a thrwyddo rwyf wedi magu fy hyder a chael cryn foddhad. Bu'n gromlin ddysgu serth ac yn her fawr, ond bu'n bleserus oherwydd rwyf wedi cwrdd a gweithio gyda rhai pobl arbennig.