Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Cynnyrch ychwanegu gwerth
Cynlluniau cyhoeddiadau

Adoygiad blynyddol 2006/7 Rheoli data Contents Previous Next

Rheoli data

Mae ansawdd ein data daearyddol - cynlluniau teitl, map mynegai fector a chyfeiriadau - o'r pwys mwyaf i'n gwasanaethau. Rydym wedi cydnabod yr angen am amgylchedd rheoli data cynhwysfawr, a fydd yn cynnig modd i ni reoli'r ased allweddol hwn mewn ffordd llawer mwy rhagweithiol.

Ymhlith y datblygiadau allweddol yn y maes hwn yw gweithredu Llinell Rhediad Gwella Ansawdd (LlRhGA). Bydd mynegeio fector y Gofrestrfa Tir, sy'n dangos stent y tir a gofrestrwyd, yn cael ei gymharu â map cyfredol yr Arolwg Ordnans a chynlluniau teitl y Gofrestrfa Tir. Bydd y LlRhGA yn golygu defnyddio systemau TG newydd a phrosesau llaw sefydledig i gymharu'r tair set data. Os oes angen, caiff y mynegeio fector a data cyfeiriad eu cywiro â llaw.

Bydd y LlRhGA yn cael ei threialu mewn tair swyddfa yn hydref 2007. Bydd y gweithgarwch datblygu yn cyd-fynd ag ymarfer cyfathrebu cynhwysfawr ar draws y sefydliad cyfan.