www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Cenedlaethol a Rhyngwladol Contents Previous Next

    Gwasanaethau Cenedlaethol a Rhyngwladol

    Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (GGTC) yn wasanaeth masnachol gyda thair sianel sy'n cynnig chwiliadau ar-lein ac ymholiadau i gyfreithwyr a thrawsgludwyr trwyddedig ledled Cymru a Lloegr. Mae'r sianeli yn cystadlu yn y farchnadle ac yn gwahaniaethu eu gwasanaethau trwy becynnu a chyflwyno'r wybodaeth i weddu i'w cynulleidfa darged. Mae chwiliadau yn cael eu hanfon yn electronig ac mae canlyniadau'n cael eu derbyn trwy foth GGTC, sy'n gweithredu fel porth ar gyfer gwybodaeth a gwasanaethau o nifer o ddarparwyr data.

    Mae'r Gofrestrfa Tir wedi cefnogi'r GGTC o'r cychwyn cyntaf ac rydym yn parhau i fod yn brif ddarparwr data, ochr yn ochr â chyrff eraill megis awdurdodau lleol a chwmnïau cyfleustodau.

    Mae sianeli'r GGTC yn cynhyrchu incwm ffioedd o fwy na £650,000 bob mis.

    Mae'r Gofrestrfa Tir wedi parhau i chwarae rôl arweiniol yn natblygiad y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Ewropeaidd (GGTE), gwasanaeth newydd cyffrous ar gyfer Ewrop. Nod y GGTE yw darparu mynediad byd-eang hawdd i wybodaeth tir ac eiddo electronig Ewropeaidd er mwyn hybu a bod yn sail i farchnad eiddo Ewropeaidd sengl.

    Roeddem ymhlith y grŵp cyntaf o awdurdodau cofrestru tir i fynd yn fyw â'r gwasanaeth pan gafodd ei lansio'n swyddogol yn Nhachwedd 2006 yng nghynhadledd flynyddol Ffederasiwn Morgeisi Ewrop ym Mrwsel. Mae gwasanaethau gwybodaeth tir cenedlaethol Cymru a Lloegr, Lithwania, yr Iseldiroedd, Norwy a Sweden wedi'u cysylltu â'i gilydd ar-lein erbyn hyn, drwy borth y GGTE.Disgwylir i 10 gwlad arall ymuno dros y flwyddyn nesaf.