www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Gwasanaethau ar-lein Contents Previous Next

    Gwasanaethau ar-lein

    Lleolwr Tir o'r Awyr

    Mae ein gwefan y Gofrestr Tir Ar-lein yn caniatáu i unrhyw un chwilio am eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr y mae modd ei adnabod drwy gyfeiriad.

    Os yw'r Gofrestrfa Tir yn gallu cyfateb y manylion y mae'r cwsmer yn eu darparu gyda'n cofnodion, ac mae'r eiddo wedi'i gofrestru, dylent allu (am ffi) lwytho i lawr copïau o'r gofrestr teitl, cynllun teitl a'r cyfan neu'r rhan fwyaf o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn y gofrestr. Os yw rhif teitl unigol yr eiddo ganddynt gallant gael yr wybodaeth hon yn gyflymach byth.

    Ond erbyn hyn gall cwsmeriaid ddefnyddio'r Gofrestr Tir Ar-lein i wybod mwy am eiddo neu ddarn o dir nad oes ganddynt gyfeiriad neu rif teitl amdano..

    Mae'r Lleolwr Tir o'r Awyr yn ategu'r mecanweithiau chwilio presennol o fewn y safle drwy leoli lleiniau o dir gan ddefnyddio mapiau a delweddaeth o'r awyr.

    Mae'r delweddau a ddarperir gan Getmapping, mewn cydweithrediad â Multimap, yn dangos manylion hyd at lefel stryd, gyda cheir a choed i'w gweld yn amlwg. Getmapping yw un o'r darparwyr delweddau o'r awyr gorau yn y wlad, ac mae'n diweddaru ei ddata'n barhaus drwy ail-hedfan dros Gymru a Lloegr. Mae unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud yn ddi-dor i'w gronfa ddata.

    Mae data newydd yn mynd ar-lein ar gyfradd o sawl mil o gilometrau sgwâr y mis, gan sicrhau bod y cyfleuster chwilio newydd yn gwella'n barhaus..