www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adolygiad Blynyddol 2007/8 Ein dyfodol Contents Previous Next

    Ein dyfodol

    Fel rhan o'n hymgyrch i wneud trafodion eiddo yn haws i bawb, rydym wedi cynyddu mynediad electronig i wasanaethau a darpariaeth gwasanaethau i bob un o'n cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys ein gwasanaeth Cofrestrfa Tir Uniongyrchol i gwsmeriaid busnes a'r Gofrestr Tir Ar-lein, sy'n cynnig modd i'r cyhoedd weld cofrestri a chynlluniau teitl unigol trwy'r rhyngrwyd. Mae’r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol, ein gwasanaeth electronig prysuraf o bell ffordd, yn ymdrin â mwy na 1.8 miliwn o geisiadau'r mis. Mae'r Gofrestr Tir Ar-lein yn parhau i fod yn fwyfwy poblogaidd gyda bron 100,000 o geisiadau i lwytho manylion i lawr bob mis.

    Mae'r Gofrestrfa Tir wedi gwneud cynnydd mawr gyda'r gwaith o ddatblygu'r hyn a gredwn fydd y system trawsgludo electronig fwyaf pellgyrhaeddol yn y byd. Roedd Deddf Cofrestru Tir 2002 wedi troedio'r ffordd ar gyfer trawsgludo electronig yng Nghymru a Lloegr. Mae'r rhaglen waith i gyflwyno hyn yn cael ei harwain gan y Gofrestrfa Tir ac yn ceisio defnyddio datblygiadau mewn technoleg drwy greu system sy'n lleihau'r oedi a'r pryder a brofir yn aml yn y broses prynu cartref. Mae e-drawsgludo yn golygu trawsffurfio'r system trawsgludo ar bapur gyfredol yn system electronig, gan ddefnyddio dogfennau, ceisiadau a llofnodion electronig, ac mae'n rhan annatod o Raglen Trawsffurfio Busnes y Gofrestrfa Tir.

    Ym mis Medi 2007 cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig o'n Glasbrint sefydliadol. Mae'r fersiwn newydd hwn yn atgyfnerthu'r neges ynghylch sut y byddwn yn gweithredu fel y sefydliad y credwn y mae angen i ni fod ac mae'n disgrifio model busnes newydd ar gyfer y Gofrestrfa Tir sy'n:

    • cynnwys cofrestr fwy cynhwysfawr
    • darparu ar gyfer e-drawsgludo ar gyfer deliadau â'r cyfan a'r rhan
    • parhau i ddarparu gwasanaethau cofrestru a gwybodaeth traddodiadol
    • darparu ystod newydd o wasanaethau anstatudol (masnachol)
    • parhau i gynnig gwasanaethau cymorth cwsmeriaid rhagorol.

    Bydd y Rhaglen Trawsffurfio Busnes yn arolygu ac yn gyrru'r gwaith o wireddu ein Glasbrint. Dros y ddwy i dair blynedd nesaf, bwriedir i'r rhaglen gyflwyno arwystlon electronig (morgeisi), sef y ffocws ar gyfer 2008, a throsglwyddiadau electronig yn ystod 2009; polisïau newydd ac arferion gweithredu i gefnogi’r model busnes newydd ynghyd â threfniadau ffi a mesurau perfformiad newydd; y porthol, hynny yw, un wefan ar gyfer cyrchu pob un o'r e-wasanaethau; a model newydd ar gyfer ein gwasanaethau cymorth mewnol, yn arbennig Adnoddau Dynol rhanbarthol a swyddogaeth Systemau Gwybodaeth wedi'i gweddnewid.

    Yn ystod mis Chwefror 2008, roedd y Gofrestrfa Tir wedi cwblhau'r seremoni llofnodi allwedd e-ddiogelwch, gan droedio'r ffordd i lofnodion electronig gael eu defnyddio trwy'r broses trawsgludo a thu hwnt.