Rhagair y Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr
Bu 2003-04 yn flwyddyn wirioneddol hanesyddol i’r Gofrestrfa Tir.
Ers dros dri chwarter canrif, rydym wedi gweithio o fewn fframwaith hwylus Deddf Cofrestru Tir 1925. Ond nid oedd y ddeddf honno yn diwallu anghenion y byd sydd ohoni bellach. Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 a ddaeth i rym ar 13 Hydref 2003, yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol modern sydd ei angen arnom.
Er gwaethaf yr her a gyflwynwyd gan y Ddeddf newydd, rydym wedi llwyddo i brosesu mwy o waith a hynny’n gyflymach ac yn fwy cywir eleni nag erioed o’r blaen.
Yn 2003-04, rydym hefyd wedi:
- cwblhau’r gwaith o roi ein holl gofrestri a’n Map Mynegai ar gyfrifiaduron
- sefydlu canolfan alwadau rhithwir i roi gwasanaeth ffôn gwell
- llwyddo i ddarparu ein gwasanaethau gwybodaeth allweddol drwy gyfrwng y Rhyngrwyd
- cynnal treial llwyddiannus o’n system rhyddhau morgeisi ‘o gyfrifiadur i gyfrifiadur’
- gwneud cynnydd gyda’r adeilad newydd ar gyfer ein grŵp Systemau Gwybodaeth yn Plymouth a chyda’n trydedd ganolfan gyfrifiaduron
- rhoi ein System Gwybodaeth Busnes newydd sy’n seiliedig ar Oracle ar waith fesul cam gan baratoi’r ffordd ar gyfer e-filio ac e-anfonebu
- gwneud cynnydd gyda’n systemau rheoli cofnodion electronig ac adnoddau dynol newydd.
Mae fy nghyd-gyfarwyddwyr a minnau yn hynod falch o’r holl waith y mae’r Gofrestrfa Tir wedi ei gyflawni yn 2003-04. Ond rydym hefyd yn cydnabod bod gennym lawer o bobl i ddiolch am eu rhan yn ein llwyddiant:
- ein cwsmeriaid am wneud mwy o ddefnydd o’n gwasanaethau a’r adborth a gawn ganddynt
- cynrychiolwyr y gymuned drawsgludo yr ydym wedi datblygu llawer o’n syniadau a’n cynlluniau gyda nhw
- ein partneriaid busnes am y gwasanaethau hollbwysig maent yn eu darparu ar ein cyfer
- y Pwyllgor Rheolau a gyfarfu ddeg gwaith eleni – y nifer mwyaf i’w cynnal mewn blwyddyn erioed
- ein Gweinidogion a’u cynghorwyr am eu diddordeb a’u cefnogaeth
- ein staff am eu sgiliau, egni a brwdfrydedd.
Peter Collis
Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr