Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Y Tu Mewn i’r Gofrestrfa Tir

Mae Cofrestrfa Tir ei Mawrhydi, a sefydlwyd ym 1862, yn adran o’r llywodraeth, yn asiantaeth weithredol ac yn gronfa fasnachu. Rhaid iddi sicrhau ei bod yn creu incwm digonol i dalu costau.

Ei phrif swyddogaeth yw cynnal a datblygu cofrestr o deitlau i dir rhydd-ddaliol a phrydlesol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r wladwriaeth yn gwarantu pob teitl. Mae’r Gofrestr Tir yn cynnwys dros 19 miliwn o deitlau. Mae’r Prif Gofrestrydd Tir yn atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol a’r Arglwydd Ganghellor.

Mae’r Gofrestrfa Tir yn gweithredu trwy 24 swyddfa yng Nghymru a Lloegr; Prif Swyddfa yn Llundain; yr Adrannau Arwystlon Tir a Chredydau Amaethyddol a’n Grŵp Systemau Gwybodaeth. Unwaith y mae darn o dir wedi’i gofrestru:

  • mae teitl cyfreithiol wedi’i warantu
  • gall unrhyw un sy’n dioddef colled ariannol oherwydd camgymeriadau yn y Gofrestr, a naill ai yn y Copïau Swyddogol neu Chwiliadau Swyddogol, yn amodol ar amodau arbennig, hawlio iawndal gan y Gofrestrfa Tir am y golled honno
  • darperir cynllun cywir
  • mae cofnod cyhoeddus awdurdodol a chyfredol o hawliau perchnogaeth, cyfamodau a morgeisi
  • gall deliadau ddigwydd gydag ymddiriedaeth
  • mae llai o risg o dwyll
  • mae ffurflenni syml yn lle dogfennau cymhleth
  • gellir datrys anghydfod yn rhad
  • nid oes angen archwiliadau hir a chostus o weithredoedd teitl.
Land Registry Annual Review 2004
Land Registry Annual Review 2004 - Inside Land Registry