Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Y Gofrestr Tir Ar-lein

Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Adnoddau Dynol

Amrywiaeth a chyfle cyfartal

Rydym wedi parhau â’n rhaglen o hyfforddiant ar reoli amrywiaeth a gwerthfawrogi cynhwysiant ar gyfer rheolwyr, a buom yn treialu pecyn e-ddysgu ar amrywiaeth ar gyfer yr holl staff.

Mae pob aelod o staff wedi cael llyfrynnau canllaw newydd ar amrywiaeth diwylliannol a thaflen newydd am gyfreithiau newydd yn ymwneud â chrefydd a thueddfryd rhywiol.

Bu i ni barhau â’n rhaglen o waith allgymorth, gan gynnal gweithdy i’r rheini sy’n ymwneud â recriwtio lle cafwyd cyfraniadau gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a Swyddfa’r Cabinet. Rydym wedi gweithio gydag asiantaethau hysbysebion recriwtio i anelu ein hysbysebion swyddi at ystod fwy amrywiol o ymgeiswyr.

Sefydlwyd ein rhwydwaith cyntaf ar gyfer staff anabl fel rhan o’r Flwyddyn Ewropeaidd i Bobl Anabl ac mae’r rhwydwaith yn cyfrannu at raglen o sicrhau nad yw ein polisïau a’n gweithdrefnau yn gwahaniaethu ar sail anabledd.

Rydym yn parhau i ehangu’r ddarpariaeth gofal plant ar draws y rhwydwaith. Mae gennym saith meithrinfa ar-safle, sy’n gwasanaethu 10 swyddfa leol, gyda chynlluniau ar y gweill i agor meithrinfeydd yn y gweithle yn Plymouth a Chaerlŷr. Rydym hefyd wedi ehangu ein meithrinfa yn Coventry. Mae’r ymrwymiad hwn yn ein cynorthwyo i recriwtio a chadw staff o ansawdd uchel.

Land Registry Annual Review 2004
Land Registry Annual Review 2004 - Inside Land Registry