Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Y Gofrestr Tir Ar-lein

Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Adnoddau Dynol

Dysgu a datblygu

Cynhaliwyd y bedwaredd broses ddethol ar gyfer y Cynllun Datblygu Carlam ‘Focus’ ym mis Awst. Ymunodd tri aelod staff â’r 19 sydd eisoes wedi elwa o’r cynllun hwn. Bydd ‘Focus’ yn cael ei ddisodli gan raglenni newydd yn 2004-05.

Nod Rhaglen Datblygu Arweinwyr y Dyfodol yw buddsoddi yn ein dawn arwain fewnol ac ymelwa arni. Rydym yn bwriadu nodi a datblygu ein staff er mwyn llenwi’r swyddi lawer y mae disgwyl y byddant ar gael ar lefelau uwch mewn blynyddoedd i ddod. Bydd y rhaglen hon yn darparu cyfleoedd tebyg i ‘Focus’. Ochr yn ochr â’r rhaglen hon, bydd dau weithgaredd datblygu a gaiff eu gweinyddu’n lleol yn cynnig cyfleoedd i staff mewn rolau rheoli ac arwain ddatblygu eu sgiliau arwain. Bydd y rhaglenni arwain newydd yn cynnwys amrywiaeth eang o fentrau hyfforddi lleol

Aeth ein rhaglen ddatblygu ar gyfer pob rheolwr canol yn ei blaen gyda gweithdai dilynol ar weithrediadau a materion newid rheolaeth. Ehangwyd y rhaglen i gynnwys arweinwyr tîm a holl staff timau technegol.

Roedd cyfanswm y gwariant ar hyfforddiant yn 13 y cant o’r bil cyflog, cynnydd o’r 9.8 y cant yn 2002-03.

Land Registry Annual Review 2004
Land Registry Annual Review 2004 - Inside Land Registry