Adnoddau Dynol
Strwythur gweithredol
Rydym wedi cyflwyno strwythur trefniadol gwell ar gyfer y timau gweithredol sy’n ymwneud â gweithgareddau busnes craidd. Mae rôl allweddol ein ‘harweinwyr rhanbarthol’ wedi ei chryfhau a’i hadfywio. Mae’r rolau gweithredol o fewn timau gweithredol wedi eu hegluro ymhellach ac rydym wedi sicrhau cydbwysedd mwy effeithiol rhwng rolau rheoli a thechnegol yn y timau hyn. Rydym hefyd wedi datblygu llwybrau hyfforddiant diwygiedig ar gyfer technegwyr.
Caiff y datblygiadau hyn eu cefnogi gan drefniadau diwygiedig ar gyfer dethol a chynnydd staff, sy’n parhau i ganolbwyntio ar baru unigolion gyda’r cymhwyseddau sydd eu hangen ar gyfer rolau unigol
Rydym hefyd wedi ehangu’r defnydd o ganolfannau asesu, sydd bellach ar waith ar gyfer pob penodiad uwch, i sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r bobl sy’n gweddu orau i rolau llawn her y dyfodol.