Adnoddau Dynol
Recriwtio
Nid yw’r Gofrestrfa Tir wedi mynd ati i recriwtio cymaint ag y gwnaeth y llynedd. Unwaith eto, bu’r rhan fwyaf o’r recriwtio yn yr unedau busnes lleol gyda’r rhan fwyaf o staff yn cael eu recriwtio ar lefelau swyddogion gweithredol iau a swyddogion clerigol. Cafodd nifer o staff eu recriwtio dros dro i fynd i’r afael â’r gwaith o fectoreiddio’r Map Mynegai. Penodwyd pob ymgeisydd llwyddiannus ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Bu i ni hefyd recriwtio rhai aelodau staff i weithio yn ein canolfannau galwadau. Mae swyddi uwch, gan gynnwys y rheiny sy’n gofyn am sgiliau ac arbenigedd penodol yn parhau i gael eu llenwi gan ddefnyddio Canolfannau Asesu sydd wedi eu teilwra’n arbennig i’r swydd dan sylw.
Gwnaed eithriad i’r egwyddorion recriwtio i ymestyn penodiad unigolyn o lai na 12 mis i uchafswm o 24 mis er mwyn cadw ei arbenigedd technegol..
Rhoddwyd anogaeth a chymorth i un ar bymtheg o bobl ag anableddau dan delerau Cynllun Symbol Anabledd y Ganolfan Byd Gwaith (Y ddau dic).
Penodwyd unigolyn a oedd yn gymwys i dderbyn cymorth dan raglenni’r llywodraeth i gynorthwyo pobl sy’n ddi-waith am gyfnod hir.