Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Perfformiad

Yr Adrannau Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol

Pridiannau Tir 
Mae’r Adran Pridiannau Tir yn gweithredu dan awdurdod Deddf Pridiannau Tir 1972. Mae’r adran yn cynnal cofrestri o bridiannau tir, achosion arfaethedig, gwritiau a gorchmynion sy’n effeithio ar dir a llyffetheiriau eraill sydd wedi eu cofrestru dan enwau perchenogion eiddo nad yw wedi ei gofrestru dan y Deddfau Cofrestru Tir.

Cafodd y gwaith pridiannau tir diwethaf ei brosesu drwy’r hen system paratoi data ym mis Mawrth 2004. Mae system electronig un cam newydd wedi gwella ein prosesau gwaith a’n gwasanaeth i gwsmeriaid. Diolch i’r system hon a phenderfyniad ac ymdrech yr Adran Pridiannau Tir, am y tro cyntaf, mae cyfran fawr o bridiannau tir yn cael eu prosesu a’u dosbarthu y diwrnod y daw’r ceisiadau i law

Credydau Amaethyddol
Mae Credydau Amaethyddol yn gyfrifol am gynnal cofrestr o fenthyciadau tymor byr gan fanciau dan Ran II Deddf Credydau Amaethyddol 1928. Mae’r arwystlon hyn wedi eu gwarantu ar stoc y fferm ac asedau amaethyddol eraill y ffermwr.

Eleni, deliodd y ddwy adran â chyfanswm o 6,032,834 o geisiadau, cynnydd o 2.3 y cant ar gyfansymiau 2002-03. Y prif reswm dros hyn oedd i nifer y ceisiadau i chwilio a chofrestru methdaliadau a dderbynnir barhau i gynyddu.

Cynyddodd cyfran y ceisiadau Chwilio a Chopi Swyddfa a dderbyniwyd dros y ffôn, drwy wasanaeth mynediad uniongyrchol a ffacs i 64 y cant o’r cyfanswm a ddaeth i law eleni o gymharu â 60 y cant yn 2002-03, gyda 77.3 y cant o geisiadau Copi Swyddfa yn cael eu cyflwyno fel hyn. Gostwng fu hanes canran y chwiliadau ffôn a wnaed fel cyfran o’r holl geisiadau chwilio a dderbyniwyd i 54 y cant o gymharu â 59 y cant yn y flwyddyn flaenorol.

Land Registry Annual Review 2004
Land Registry Annual Review 2004 - Performance
Cyflawni targedau allweddol
Canlyniadau a buddrannau
Amcan strategol 1
Amcan strategol 2
Amcan strategol 3
Amcan strategol 4
Amcan strategol 5
Amcan strategol 6
Amcan strategol 7
Amcan strategol 8
Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol