Perfformiad
Amcan strategol 1: Gwasanaeth cwsmeriaid a gweithrediadau
Gwobrau Gwasanaeth Cwsmeriaid Cenedlaethol 2003
Mae tîm o swyddfa’r Gofrestrfa Tir yn Peterborough wedi ennill gwobr genedlaethol uchel ei bri – Gwobr Cymdeithas Gweithwyr Proffesiynol Materion Defnyddwyr am Arloesedd mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid – gan guro rhai o sefydliadau mwyaf y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Roedd y tîm wedi defnyddio technegau hyfforddi arloesol i gynorthwyo cwmni cyfreithwyr lleol i wella ansawdd eu ceisiadau, gan gynnwys cynhyrchu cymorth desg electronig rhyngweithiol.