Perfformiad
Amcan strategol 1: Gwasanaeth cwsmeriaid a gweithrediadau
Adrodd ac atebolrwydd cyhoeddus
Daethom i’r brig yn y categori ‘Sefydliadau cenedlaethol sydd â throsiant blynyddol o dros Ł50 miliwn’ yng Ngwobrau Adrodd ac Atebolrwydd Cyhoeddus 2004 CIPFA/PricewaterhouseCoopers. Roeddem eisoes wedi ennill y wobr hon yn 2002 a daethom yn ail yn 2003.
Mae’r wobr yn cydnabod ac yn hyrwyddo arfer gorau yn nhrefniadau adrodd ac atebolrwydd cyhoeddus y gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd y beirniaid fod y Gofrestrfa Tir wedi arddangos ‘awydd brwd i gynnwys ei budd-ddeiliaid mewn proses ddwyffordd ac nad oedd yn ofni adborth gonest’.