Perfformiad
Amcan strategol 1: Gwasanaeth cwsmeriaid
Gwasanaeth cwsmeriaid – cyflymder a chywirdeb
Cyflawnwyd yr holl dargedau mewn perthynas â chyflymder gwasanaeth a chywirdeb ceisiadau.
Cyflymder gwasanaeth
- Proseswyd 88.69 y cant o’r holl gofrestriadau o fewn 20 diwrnod gwaith (y targed oedd 80 y cant).
- Proseswyd 100 y cant o’r holl geisiadau copi swyddogol a chwiliadau swyddogol o fewn dau ddiwrnod gwaith (y targed oedd 98 y cant).
- Ymatebwyd i 97 y cant o ohebiaeth gyffredinol o fewn pum niwrnod gwaith.
- Mae 97.52 y cant o’n cwsmeriaid yn fodlon neu’n fodlon iawn gyda chyflymder y gwasanaeth cofrestriadau.
Cywirdeb gwasanaeth
- Proseswyd 98.79 y cant o gofrestriadau heb unrhyw gamgymeriadau (y targed oedd 98.5 y cant)
- Mae 97 y cant o’n cwsmeriaid yn fodlon neu’n fodlon iawn gyda safon cywirdeb y cofrestriadau a gwblhawyd.
|