Perfformiad
Amcan strategol 1: Gwasanaeth cwsmeriaid a gweithrediadau
Gwasanaethau Ffôn
- Mae’r galw am Wasanaethau Ffôn wedi parhau i dyfu 10 y cant yn ystod y flwyddyn.
- Derbynnir 15,500 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd, sy’n cyfrif am 26,000 o geisiadau.
- Mae 99 y cant o’n cwsmeriaid yn fodlon gyda pha mor gwrtais a chynorthwyol yw ein staff.
- I leihau ymhellach yr amser a gymerir i ateb galwadau a’n galluogi i ymdopi â’r galw cynyddol, rydym wedi gosod system cyfeirio galwadau newydd. Roedd y system hon yn gwbl weithredol ar ddechrau 2004. Mae’r system newydd bellach yn lleihau’n sylweddol yr amser y mae’n rhaid i gwsmeriaid aros cyn i rywun ateb eu galwadau.Mae 97 y cant o’n cwsmeriaid yn fodlon â’r wybodaeth a ddarperir.
I leihau ymhellach yr amser a gymerir i ateb galwadau a’n galluogi i ymdopi â’r galw cynyddol, rydym wedi gosod system cyfeirio galwadau newydd. Roedd y system hon yn gwbl weithredol ar ddechrau 2004. Mae’r system newydd bellach yn lleihau’n sylweddol yr amser y mae’n rhaid i gwsmeriaid aros cyn i rywun ateb eu galwadau.
Mae dros 95 y cant o alwadau’n cael eu hateb o fewn 30 eiliad neu lai erbyn hyn, o gymharu â 56 y cant o alwadau’n cael eu hateb o fewn tri munud yn y flwyddyn flaenorol.
Mae oedi yn beth prin bellach, ond pan fo’n digwydd, mae cwsmeriaid yn clywed neges sy’n rhoi amcan o ba mor hir y mae’n rhaid iddynt ddisgwyl i rywun ateb.
Rydym hefyd wedi cyflwyno system sy’n galluogi’r rhai sy’n galw i gael eu cyfeirio’n uniongyrchol at rywun sy’n siarad Cymraeg.