Perfformiad
Amcan strategol 1: Cyllid
Bu i ni ragori ar ein Targedau Perfformiad Allweddol ariannol i gyd yn 2003-04.
- Roedd incwm o ffïoedd yn £399.2 miliwn o gymharu â £415.3 miliwn yn 2002-03.
- Lleihawyd ffïoedd dan Orchymyn Ffi Cofrestru Tir 2003 a gyflwynwyd ar 1 Mawrth 2003. Mae’r Gorchymyn wedi bod ar waith am flwyddyn gyfan a dyma sydd wrth wraidd y trosiant is.
- Yn chwarter olaf y flwyddyn ariannol, mae gweithgarwch yn y farchnad eiddo wedi cynyddu’n sylweddol, gyda chynnydd cyfatebol mewn incwm o ffïoedd.
- Roedd yr Elw o’r Cyfalaf Cyfartalog a Ddefnyddiwyd (ROCE) yn 11.5 y cant (y targed oedd 6 y cant).
- Lleihaodd ROCE o 6 y cant i 3.5 y cant ar 1 Ebrill 2004 yn dilyn adolygiad a gyhoeddwyd mewn Datganiad Gweinidogol Ysgrifenedig gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys a gyhoeddwyd ar 8 Medi ac a gyflwynwyd gerbron y Senedd ar 15 Rhagfyr 2003. Daethpwyd i gytundeb gyda swyddogion y Trysorlys y byddai’r lleihad yn dod i rym ar ddechrau 2004-05.
Effeithlonrwydd
Ein ffigur diwedd blwyddyn oedd £20.47, sy’n cyflawni ein targed cost yr uned mewn termau real o £22.17. Mae hyn yn lleihad o gymharu â tharged y flwyddyn o 7.9 y cant a chynnydd o 7 y cant ar ganlyniadau go iawn y flwyddyn flaenorol (£19.06). Mae’r ffigur termau arian dros dro cyfatebol ar gyfer y flwyddyn yn £27.06, y targed oedd £29.31.