Perfformiad
Amcan strategol 1: Gwasanaeth yn Gyntaf
Prosiect Acacia
Gweledigaeth Acacia yw seilwaith cenedlaethol terfynol, cyson ac unedig o gyfeiriadau eiddo a data perthnasol gyda’r mapio cysylltiedig a fydd yn sicrhau arbedion pwysig a gwelliannau mawr o ran effeithlonrwydd a gwasanaeth yn y sector cyhoeddus a ledled yr economi.
Bydd Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog yn ystyried strwythurau a chyfrifoldebau’r dyfodol mewn perthynas â gwireddu gweledigaeth Acacia.
Mae prosiect Acacia bellach wedi cwblhau ei waith ymchwil ac mae’n barod i gyhoeddi ei gasgliadau mewn cyfres o adroddiadau prosiect. Mae’r strwythur ar gyfer datblygu a chynnal y set ddata genedlaethol o gyfeiriadau yn fater canolog.
Mae’r adroddiadau’n sôn am:
- y gallu technegol i brofi, cyfeirio a mapio setiau data
- gofynion defnyddwyr o system Acacia
- yr achos o’i blaid o safbwynt busnes.
Dengys yr adroddiadau bod achos cadarn dros Acacia a’i fod yn ddichonadwy. Fodd bynnag, er mwyn gwireddu gweledigaeth y prosiect, bydd angen i’r llywodraeth ganolog fynd i’r afael â rhai materion sefydliadol a materion eraill pwysig, er enghraifft eiddo deallusol.