Perfformiad
Amcan strategol 3
Ymgysylltu â budd-ddeiliaid
Ymgysylltu â budd-ddeiliaid Rydym wedi parhau i gynnal rhaglen helaeth sy’n ymgysylltu, cyfathrebu ac ymgynghori â budd-ddeiliaid. Bu dau grŵp newydd, y Grŵp Defnyddwyr Busnes a’r Grŵp Defnyddwyr Llywodraeth, o gymorth i reoli cydberthnasau budd-ddeiliaid er mwyn sicrhau’r ymroddiad a chyfranogiad gorau posib. Rydym wedi cael lefel uchel o gefnogaeth gadarnhaol gan budd-ddeiliaid.