Perfformiad
Amcan strategol 4
Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Ewropeaidd (EULIS)
Nod EULIS yw rhoi mynediad i wybodaeth ar draws ffiniau Ewropeaidd drwy gyfrwng y rhyngrwyd, gan greu amgylchedd gwell ar gyfer gweithwyr eiddo a chyllid proffesiynol yn ogystal â dinasyddion. Mae’r prosiect yn edrych ar gynnwys y gwasanaeth, safonau a diogelu preifatrwydd, prisio, bilio, diogelwch, atebion technegol ac ymelwa. Ei nod yw gwneud gwybodaeth am dir Ewropeaidd yn haws i ddod o hyd iddi a gwella’r farchnad sengl ar gyfer gwasanaethau ariannol.
Dechreuodd y prosiect EULIS ym mis Ionawr 2002 a daeth i ben ym mis Mehefin 2004. Cynrychiolwyr o gofrestrfeydd tir wyth gwlad Ewropeaidd oedd y rhai fu’n cymryd rhan yn y prosiect yn bennaf.
Nod y rhaglen yw darparu:
- gwasanaeth go iawn gyda mynediad i ddata eiddo
- y gallu i’w ddeall mewn unrhyw iaith Ewropeaidd
- y gwasanaeth ledled Ewrop trwy wahodd holl wledydd Ewrop i ymuno ag EULIS.
Mae Prifysgol Lund wedi bod yn trefnu cyfres o seminarau i ddwyn y gymuned drawsgludo ynghyd a chynyddu ymwybyddiaeth o EULIS. Cynhaliwyd y seminar olaf ym mis Mehefin 2004 lle lansiwyd EULIS ledled Ewrop. Ein His-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol draddododd yr anerchiad agoriadol.