Perfformiad
Amcan strategol 4
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Lansiwyd fersiwn o’r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol ar y rhyngrwyd ym mis Mawrth 2004. Mae’n caniatáu i gwsmeriaid ddefnyddio’r gwasanaeth o unrhyw gyfrifiadur rhwydwaith yn eu sefydliadau eu hunain. Mae’r fersiwn rhyngrwyd yn ategu’r gwasanaeth deialu cyfredol sy’n defnyddio allrwyd diogel Global Crossing. Mae’r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol ar gael i dros 20,000 o ddefnyddwyr erbyn hyn ac rydym yn cael 50 o geisiadau tanysgrifio y dydd. Er mai dim ond £4 yw’r ffi uchaf, roedd incwm y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol o ffïoedd bron yn £1.5 miliwn ym mis Mawrth 2004 yn unig.