Perfformiad
Amcan strategol 5: Creu Cofrestr gynhwysfawr a chenedlaethol erbyn 2012
Mae prosiectau cofrestru gwirfoddol mawr ar waith yn nifer o’n swyddfeydd lleol ac maent yn cynnwys tirddaliadau mawr Dugiaeth Cernyw, Ystadau Amddiffyn, English Partnerships, Ystâd Beaulieu, Cyngor Dinas Birmingham a Menter Coedwigaeth (Fforest y Ddena). Rydym hefyd yn cynnal trafodaethau gydag 20 o ddeiliad tir pwysig eraill, gan gynnwys Dyfrffyrdd Prydain, Asiantaeth yr Amgylchedd a nifer o awdurdodau lleol.
Rydym yn gweithio gyda chwsmer i ymchwilio i gyfnewid gwybodaeth fapio yn electronig.