Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Perfformiad

Amcan strategol 6: Darparu gwasanaethau data cenedlaethol, rhanbarthol ac ardal gwell a thryloyw ar gyfer y farchnad eiddo o 2003

Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) i’w chyflenwi gyda’r data sydd ei angen arni i gyfrifo’r prisiadau treth cyngor newydd ar gyfer 2007 a chysylltu o’r wybodaeth a gyhoeddir ar wefan y VOA i’r Gofrestr Tir Ar-lein. Bydd hyn yn ffordd fwy agored ac eglur o ddangos sut caiff y dreth ei chyfrifo.

Rydym wedi parhau i gyflenwi adrannau eraill y llywodraeth â data i’w ddefnyddio yn y gwahanol ystadegau prisiau tai a gynhyrchant, a chyflenwi awdurdodau lleol gyda data ar brisiau tai unigol (ond nid cyfeiriadau) i hysbysu eu hachosion busnes ar gyfer grantiau, dadansoddi’r farchnad ac ati.

Rydym wedi cymryd rhan mewn trafodaethau rhagarweiniol gyda Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog, ymgynghorwyr ac awdurdodau lleol braenaru ynglŷn â’r ffordd ymlaen ar gyfer datblygu systemau GIS i gefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau mewn awdurdodau lleol.

Ar hyn o bryd, rydym wedi gofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth am ganllawiau ar oblygiadau diogelu data cyflenwi data ar gyfeiriadau unigol fel rhan o set ddata prisiau tai ac rydym yn gobeithio cael penderfyniad cyn bo hir.

Ym mis Ionawr, cawsom achrediad Masnachwr Gwybodaeth Teg gan Lyfrfa Ei Mawrhydi. Ni yw’r ‘masnachwr bach’ cyntaf i’w dderbyn ac rydym yn gobeithio y bydd argymhellion yr adroddiad terfynol wedi’u cyflawni nes ymlaen yr haf hwn.

Land Registry Annual Review 2004
Land Registry Annual Review 2004 - Performance
Cyflawni targedau allweddol
Canlyniadau a buddrannau
Amcan strategol 1
Amcan strategol 2
Amcan strategol 3
Amcan strategol 4
Amcan strategol 5
Amcan strategol 6
Amcan strategol 7
Amcan strategol 8
Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol