Perfformiad
Amcan strategol 7: Nodi’r potensial ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus pellach sy’n gysylltiedig â’n gweithgareddau busnes ni, gan ddefnyddio ein sgiliau busnes, data ac adnoddau
Yn dilyn argymhellion yr Adolygiad Pum Mlynedd, sefydlwyd ein Huned Ryngwladol yn y Brif Swyddfa ym mis Ebrill 2003. Mae’r Uned yn cydgysylltu ein gweithgareddau rhyngwladol i gyd.
Yn ystod y flwyddyn, trefnodd yr uned ymweliadau astudio ar gyfer swyddogion y llywodraeth a gweinyddu tir. Mae’r uned hefyd wedi cynrychioli’r Gofrestrfa Tir mewn llawer o gynadleddau a thrafodaethau sy’n ymdrin â materion stentaidd a chofrestru tir. Yn ogystal, trefnwyd ymweliad astudio byr â’r Iseldiroedd ar wahoddiad Kadaster y wlad.
Mae gan yr uned Gytundeb Datblygu Busnes gyda’i chymheiriaid yn Is-adran Ymgynghori Ryngwladol Cofrestri’r Alban. Nod y cytundeb yw sicrhau nad ydym yn cystadlu am waith rhyngwladol a’n bod yn cyfuno ein harbenigedd a’n profiad wrth gynnig am brosiectau lle bynnag bo’n bosib.
Yn dilyn ymweliad â Bahrain, mae’r Gofrestrfa Tir wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ddiweddar gyda Swyddfa Arolwg a Chofrestru Tir Bahrain gyda’r nod o gynorthwyo gyda’r gwaith o foderneiddio arferion a gweithdrefnau cofrestru tir y wlad.