Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Perfformiad

Amcan strategol 8: Rhoi ein cefnogaeth i sefydlu gwasanaeth dyfarnu annibynnol ar gyfer y Gofrestrfa Tir erbyn 2003

Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn cynnwys darpariaeth i sefydlu gwasanaeth dyfarnu hollol annibynnol ar gyfer ceisiadau sy’n destun dadlau a gyflwynir i’r Gofrestrfa Tir, dan arweiniad Dyfarnwr y Gofrestrfa Tir.

Mae’r Dyfarnwr yn gwneud y gwaith o benderfynu ar yr achosion hyn yn llawer mwy agored ac annibynnol, yn enwedig mewn achosion sy’n cynnwys penderfyniadau gan swyddogion y Gofrestrfa Tir, neu achosion lle gallai’r canlyniad effeithio ar daliad indemniad gan y Gofrestrfa Tir. Bydd y Dyfarnwr hefyd yn ystyried ceisiadau i gywiro neu roi i’r neilltu dogfennau penodol sy’n gysylltiedig â thir cofrestredig. Mae’r Dyfarnwr wedi ei leoli yn Llundain ond bydd yn gwrando ar achosion yn lleol yng Nghymru a Lloegr fel bo’n briodol.

 Penodwyd Mr Edward Cousins, y Prif Gomisiynydd Tir Comin a chyn-aelod o’r Pwyllgor Rheolau, yn Ddyfarnwr cyntaf y Gofrestrfa Tir. Dechreuodd Mr Cousins ei swydd ar 13 Hydref 2003, ac erbyn diwedd Mawrth 2004, roedd wedi derbyn 140 o atgyfeiriadau gan y Gofrestrfa Tir a chwe chais dan yr awdurdod i gywiro dogfennau neu eu rhoi i’r neilltu.

Land Registry Annual Review 2004
Land Registry Annual Review 2004 - Performance
Cyflawni targedau allweddol
Canlyniadau a buddrannau
Amcan strategol 1
Amcan strategol 2
Amcan strategol 3
Amcan strategol 4
Amcan strategol 5
Amcan strategol 6
Amcan strategol 7
Amcan strategol 8
Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol