Ynglŷn â'r Gofrestrfa Tir
Ynglŷn â'r Gofrestrfa Tir
Cenhadaeth y Gofrestrfa Tir yw darparu’r gwasanaeth gorau yn y byd ar gyfer gwarantu perchnogaeth o dir a hwyluso trafodion eiddo. Dyma ein prif amcanion:
- cynnal a datblygu system cofrestru tir sefydlog ac effeithiol ledled Cymru a Lloegr a fydd yn gonglfaen i’r gwaith o greu buddion mewn tir a’u symud yn ddirwystr
- ar ran y Goron, gwarantu teitl ystadau cofrestredig a buddion mewn tir ar gyfer Cymru a Lloegr i gyd
- darparu mynediad cyflym i wybodaeth gyfredol a gwarantedig am dir, gan alluogi deliadau hyderus o ran eiddo a sicrwydd teitl
- darparu gwasanaeth Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol.
Mae’r Gofrestrfa Tir, a sefydlwyd ym 1862, yn adran o’r llywodraeth, yn asiantaeth weithredol (ers 1990) ac yn gronfa fasnachu (ers 1993). Y Prif Gofrestrydd Tir yw Pennaeth Adran, Swyddog Cyfrifo llawn a Phrif Weithredwr yr asiantaeth weithredol. Mae’n ddeiliad swydd statudol ac yn gyfrifol am weinyddu holl fusnes cofrestru tir yng Nghymru a Lloegr, gan fod yn atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol ac Arglwydd Ganghellor.
Mae’r Gofrestrfa Tir yn gweithredu trwy 24 swyddfa ledled Cymru a Lloegr, Prif Swyddfa yn Llundain a swyddfeydd yn Plymouth sy’n gartref i’r Adrannau Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol a’n Grŵp Gwasanaethau Gwybodaeth.
Mae’r Gofrestr Tir, sy’n cynnwys dros 19 miliwn o deitlau, wedi bod yn agored i’r cyhoedd ers Rhagfyr 1990.