Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Y Gofrestrfa Tir a'i chyflawniadau

Chwalu hen goelion am gofrestru tir

Mae’r Gofrestrfa Tir wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus gydag amrywiaeth eang o sefydliadau i gynnwys tir ar y Gofrestr Tir yn raddol.

Newyddion yn gryno

  • Rydym wedi dosbarthu pecyn marchnata i dirfeddianwyr mawr i’w hannog i gofrestru eu hystadau. Mae’n nodi manteision teitl cofrestredig i dir ac yn edrych ar fanylion Deddf Cofrestru Tir 2002.
  • Rydym wedi cwblhau ymarfer ymgynghori cyhoeddus sydd â’r nod o helpu landlordiaid a thenantiaid trwy ddatblygu prydles safonol.
  • Rydym wedi cyhoeddi cyfarwyddyd cyhoeddus newydd, ‘Eich hawliau dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a sut mae’n effeithio ar y Gofrestr Tir' yn unol â’n nod o sicrhau mwy o dryloywder.

    Targed 2012 - cofrestru 100 y cant o dir

    “Beth yw manteision cofrestru fy nhir?” Dyma’r cwestiwn diamwys sy’n wynebu Tîm Datblygu’r Gofrestr pan fo’n cyfarfod â thirfeddianwyr, rheolwyr ystadau a chynrychiolwyr cyfreithiol wrth iddo weithio at y targed o gofrestru 100 y cant o dir erbyn 2012.

    Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Gofrestrfa Tir wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus gydag amrywiaeth eang o sefydliadau i gofrestru tir ar y Gofrestr Tir yn raddol. Rydym yn nodi darpar gwsmeriaid sydd â daliadau tir mawr ac yn gwneud ein gorau glas i’w hargyhoeddi i gofrestru’n wirfoddol. Mae hyn yn golygu trafod sut mae’r broses yn gweithio, archwilio unrhyw amheuon sydd gan y cwsmer a sicrhau bod y broses gofrestru yn mynd rhagddi mor hwylus â phosib. Mae ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr yn cael ei lansio sy’n targedu awdurdodau lleol a chyrff allweddol eraill, tirfeddianwyr preifat a chwmnïau cyfleustodau. Mae’r tîm eisoes yn gweithio gyda mwy na 500 o gwsmeriaid, gan gynnwys Comisiynwyr yr Eglwys ac Ystâd Dugiaeth Cernyw. Mae’r tîm hefyd yn targedu awdurdodau lleol a’r Llywodraeth.

    Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol ac Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Falconer, wedi cymell aelodau’r Cabinet i ddechrau, neu gyflymu, rhaglenni sydd eisoes ar waith i gofrestru holl dir y Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr gan y byddai hyn yn gosod esiampl i ddeiliaid tir yn y sector preifat.

    Diogelu’r cyhoedd rhag twyll

    I’r anwyliadwrus yn ein plith, gallai ‘Sut i gael gafael ar dir ac eiddo am ddim’ ymddangos yn gynnig deniadol. Fodd bynnag, mae mwyafrif helaeth yr hysbysebion hyn sydd wedi ymddangos mewn papurau newydd yn hynod gamarweiniol.

    Rydym wedi lansio cyfarwyddyd newydd "Tir ac eiddo am ddim" – hysbysebion am hawlio tir yng Nghymru a Lloegr i helpu i ddiogelu’r cyhoedd rhag talu’r ffïoedd a godir gan weithredwyr diegwyddor. Mae’n trafod y cwestiynau allweddol ac yn chwalu llawer o’r hen goelion ynglŷn â’r tir am ddim honedig. Mae rhai hysbysebion wedi awgrymu nad oes unrhyw un yn berchen ar dir sydd heb ei gofrestru neu sydd wedi ei adael – mae’r daflen yn pwysleisio nad yw hyn yn wir. Mae pob darn o dir yn eiddo i rywun ac os ydych yn hawlio tir trwy sgwatio arno, nid oes sicrwydd na fydd y perchennog go iawn yn defnyddio’r gyfraith i’w gael yn ôl.

  • Land Registry Annual Review 2004
    Land Registry Annual Review 2004 - Performance
    Y Gofrestrfa Tir a'i chyflawniadau
    Ynglyn â'r Gofrestrfa Tir
    Bwrdd y Gofrestrfa Tir
    Cynnal rhagoriaeth weithredol
    Buddsoddi yn ein pobl
    Chwalu hen goelion am gofrestru tir
    Creu cysylltiadau byd-eang
    Mae'r dyfodol yn electronig
    Gwybodaeth i bawb
    Rhoi'r cwsmer yn gyntaf