www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Y Gofrestrfa Tir a'i chyflawniadau

Cynnal rhagoriaeth weithredol

Mae hon yn agenda anodd – ond byddwn yn ei chyflawni oherwydd ein bod mor benderfynol o wneud trafodion eiddo yn haws i bawb

Newyddion yn gryno

Yn 2004-05 cawsom dros 5.5 miliwn o geisiadau am newidiadau i’r gofrestr a llwyddasom i gwblhau: bron i 90 y cant o fewn ein targed o 20 niwrnod; dros 60 y cant ar y diwrnod y daethant i law; dros 98.5 y cant heb unrhyw gamgymeriadau.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae ein llwyth gwaith wedi dyblu tra bod ein hadnoddau wedi lleihau gan draean; ac rydym wedi lleihau’r ffïoedd rydym yn eu codi 57 y cant yn gronnol mewn termau real.

Cofrestru bodlonrwydd cwsmeriaid

“Mae wedi bod yn flwyddyn neilltuol i Weithrediadau, gyda phob aelod o staff yn gwneud ei ran i’n helpu i gyflawni ein targedau perfformiad i gyd, er i’r farchnad eiddo arafu ddiwedd y flwyddyn. Gyda phrin unrhyw ôl-achosion gwaith, a chywirdeb yn parhau i fod yn ardderchog, rydyn ni bellach yn darparu gwasanaethau effeithlon mewn modd rydyn ni’n falch ohono, ac mewn modd y mae gan ein cwsmeriaid bob hawl i’w ddisgwyl. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cwblhau cam olaf y rhaglen hyfforddiant ddwysaf yn ein hanes, sef hyfforddi holl swyddogion Cofrestru Gweithredol ar bob agwedd ar gofrestru teitlau newydd. Mae gan swyddfeydd y Gofrestrfa Tir fwy o hyblygrwydd a’r gallu i addasu i brosesu unrhyw ffurf o waith teitl newydd a gaiff ei gyflwyno. Mae’r farchnad yn newid. Yn yr amgylchedd newydd hwn o nifer fach o ôl-achosion a lefel y gwaith sy’n dod i law yn isel, rydyn ni wedi rhannu gwaith rhwng ein 24 swyddfa i sicrhau llwyth gwaith cytbwys ac wedi cynyddu ein hymdrechion i berswadio tirfeddianwyr a deiliaid tir mawr eraill i gofrestru eu tir yn wirfoddol. Bydd creu digon o gofrestriadau newydd yn her allweddol yn y flwyddyn i ddod.”   Andy Howarth, Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Cynllunio ar gyfer llwyddiant

Mae gan y Gofrestrfa Tir Gynllun Strategol 10 Mlynedd ar waith gyda chenhadaeth i ddarparu’r gwasanaeth gorau yn y byd ar gyfer gwarantu perchnogaeth o dir a hwyluso trafodion eiddo.

“Yn 2005–06, byddwn yn ceisio prosesu cofrestriadau yn gynt nag erioed trwy leihau’r targed amseroedd prosesu o 20 i 18 diwrnod gwaith. Byddwn hefyd yn adeiladu ar lwyddiant cychwynnol y Gofrestr Tir Ar-lein, trwy ychwanegu gwasanaeth lle gall y cyhoedd weld ac argraffu gweithredoedd. Byddwn yn cynyddu ein hymdrechion i gwblhau’r Gofrestr Tir trwy gofrestru, am y tro cyntaf, bump y cant ychwanegol o arwyneb y tir rhydd-ddaliol yng Nghymru a Lloegr. Byddwn hefyd yn cwblhau’r gwaith prototeipio ar gyfer dilysu dogfennau electronig. Mae hon yn agenda anodd. Ond byddwn yn ei chyflawni oherwydd ein bod mor benderfynol o wneud trafodion eiddo yn haws i bawb.” Alan Pemberton, Cyfarwyddwr Strategaeth

Land Registry Annual Review 2004
Land Registry Annual Review 2004 - Performance
Y Gofrestrfa Tir a'i chyflawniadau
Ynglyn â'r Gofrestrfa Tir
Bwrdd y Gofrestrfa Tir
Cynnal rhagoriaeth weithredol
Buddsoddi yn ein pobl
Chwalu hen goelion am gofrestru tir
Creu cysylltiadau byd-eang
Mae'r dyfodol yn electronig
Gwybodaeth i bawb
Rhoi'r cwsmer yn gyntaf