Y Gofrestrfa Tir a'i chyflawniadau
Buddsoddi yn ein pobl
Hanfod Rhaglen Datblygu Arweinwyr y Dyfodol yw sicrhau bod unigolion addawol yn meddu ar yr holl alluoedd angenrheidiol i ysgwyddo swyddogaethau arwain
Newyddion yn gryno
- Lansiwyd cymhwyster Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ym mis Ebrill 2004 i alluogi ymgeiswyr y Gofrestrfa Tir i gysylltu eu gwaith â meysydd eraill y diwydiant eiddo.
“Mae astudio ar gyfer y cymhwyster TechRICS wedi fy ysbrydoli i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd gen i’n barod.” Rob Bradbury, swyddfa Nottingham East.
Sefydlwyd Porth Gweithrediadau ar y fewnrwyd mewn ymateb i geisiadau staff am sut a pham y gwneir penderfyniadau polisi.
Mae’r Gofrestrfa Tir ar flaen y gad ymhlith adrannau’r llywodraeth o ran darparu gofal plant mewn meithrinfa. Agorwyd meithrinfa Cofrestrfa Tir Coventry gan yr Arglwydd Falconer.
Datblygu arweinwyr y dyfodol heddiw
“Ein rhaglen Datblygu Arweinwyr y Dyfodol yw un o’r mentrau mwyaf cyffrous ac uchelgeisiol i gael ei lansio yn y Gofrestrfa Tir. Mae pobl newydd rydyn ni wedi eu recriwtio ar bob lefel wedi dod â syniadau ac ysgogiad newydd. Nawr mae’n amser i ni fynd ati’n ddiwyd i nodi staff â photensial go iawn. Mae angen i ni fod yn fwy arloesol wrth ddatblygu’r bobl hyn er mwyn cynnal a gwella’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ein sefydliad i ymateb i’r heriau sy’n ei wynebu. Hanfod Datblygu Arweinwyr y Dyfodol yw sicrhau bod yr holl unigolion addawol yn meddu ar yr holl alluoedd sydd eu hangen i ysgwyddo swyddogaethau arwain.” Rheolwr Alan Hollingmode
Bydd staff yn gweithio tuag at gyflawni eu dyheadau gyrfa mewn modd strwythuredig ond hyblyg trwy gyfuniad o waith theori a phrofiad ymarferol ac, mewn rhai achosion, gweithio gyda sefydliadau eraill drwy secondiadau ac atodiadau. Mae dau fodiwl: fersiwn a ddarperir yn lleol, sy’n cefnogi datblygu sgiliau arwain dros gyfnod o flwyddyn, a modiwl canolog dros dair blynedd ar gyfer staff sy’n dangos potensial eithriadol fel arweinwyr. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn gallu cael mynediad i gyrsiau sy’n cynnig y sgiliau busnes diweddaraf, gan gynnwys agweddau ar raglen Top Management Swyddfa’r Cabinet sy’n cael ei darparu mewn partneriaeth â’r Ysgol Lywodraeth Genedlaethol a Henley Management College.
“Rhaid i ni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau pan ddaw hi i ddyfodol y Gofrestrfa Tir gan obeithio y gallwn recriwtio pobl briodol o’r tu allan pan a phryd y byddwn ni eu hangen. Ein nod yw gofalu ein bod yn gallu cynnig ymgeiswyr mewnol rhagorol. Mae rhaglen Datblygu Arweinwyr y Dyfodol yn fuddsoddiad sylweddol i sicrhau bod yr holl aelodau staff yn cael cyfle i wireddu eu potensial.” Peter Collis, Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr
Buddsoddi mewn bywyd cytbwys
A yw’n bosib cael cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith? I geisio ateb y cwestiwn hwn, sefydlodd swyddfa’r Gofrestrfa Tir yn Lytham dîm brosiect arbennig a aeth ati i edrych am ddiffiniad o’r hyn y mae’r dyhead hwn yn golygu’n ymarferol. Y cam nesaf oedd profi i’r aseswr Buddsoddwyr mewn Pobl bod staff swyddfa Lytham wedi mabwysiadu’r diwylliant cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn llawn. O ganlyniad, cafodd swyddfa Lytham achrediad cydbwysedd bywyd a gwaith newydd Buddsoddwyr mewn Pobl.
“Roedd ein horiau gwaith hyblyg yn sicr yn ffactor yn y wobr hon, ond felly hefyd yr ystafell ffitrwydd ar safle, gwiriadau iechyd bob yn ail flwyddyn, ymweliadau gan giropodydd, gwasanaeth tylino’r corff a llawer mwy. Mae hwn yn gydnabyddiaeth ffurfiol o feddylfryd ymarferol Lytham sy’n rhoi pobl yn gyntaf, sy’n cyfuno cydbwysedd bywyd a gwaith ein staff gydag anghenion y busnes yn ei gyfanrwydd.” Rheolwr Ardal Keith Melia