Cyfleusterau
Iechyd a diogelwch
Mae arferion iechyd a diogelwch da yn rhan annatod o berfformiad ein busnes ac rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd gwaith diogel. Yn 2003-04, cofnodwyd y nifer isaf erioed o ddamweiniau. Cafwyd 451 damwain eleni (i lawr o 466). O’r rhain, bu’n rhaid hysbysu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am 26 ohonynt (i fyny o 22).
Rydym wedi cwblhau ein rhaglen o archwiliadau iechyd a diogelwch a chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Rydym wedi adolygu ein canllawiau a hyfforddi rheolwyr llinell yn ôl y bwriad. Ein bwriad yn awr yw cynhyrchu strategaeth ar gyfer straen, darparu asesiadau/hyfforddiant ar sgrin yn electronig, a chael canllawiau ar atal/rheoli anhwylderau yn y breichiau.