Gwybodaeth ddaearyddol
Rhestr Eiddo'r Gofrestrfa Tir
Mae Rhestr Eiddo’r Gofrestrfa Tir wedi ei chreu i fod yn gydnaws â systemau sefydliadau allanol, fel y Rhestr Tir ac Eiddo Genedlaethol (NLPG), a’r Gwasanaeth Tir a Gwybodaeth Cenedlaethol. Bydd yn sail ddibynadwy ac effeithiol ar gyfer adeiladu gwasanaethau e-fusnes ac electronig.
Mae cywirdeb ein cronfa ddata gyfeiriadau yn hollbwysig i lwyddiant strategaethau busnes y dyfodol y Gofrestrfa Tir, oherwydd bydd y cyhoedd yn ei defnyddio fwyfwy i weld ein data. Rydym wedi penodi rheolwyr cyfeiriadau lleol ym mhob un o’n swyddfeydd i sicrhau bod y gronfa ddata mor gywir a chyfredol â phosib. Maent yn gyfrifol am ymchwilio i, a datrys unrhyw gofnod yn ein cronfa ddata gyfeiriadau a allai fod yn un dyblyg, sy’n anghyson â’r cofnodion sydd ynddi eisoes, neu a allai greu camgymeriadau yn ein chwiliadau mewnol ac allanol. Maent yn defnyddio gwybodaeth fewnol i gadarnhau newidiadau ac yn ymgynghori â Swyddfa’r Post i sicrhau bod codau post yn gywir.