Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Gwybodaeth ddaearyddol

Mapio

Mae’r Gofrestrfa Tir wedi bod yn gweithio gyda’r Arolwg Ordnans (OS) i werthuso MasterMap. Map digidol deallus yw OS MasterMap a gynlluniwyd gan Arolwg Ordnans i’w ddefnyddio gyda systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS) a chronfeydd data. Yn seiliedig ar y Grid Cenedlaethol, mae’n cynnwys gwybodaeth dopograffaidd am bob nodwedd o’r tirlun - adeiladau, ffyrdd, ciosgau ffôn, blychau postio, tirnodau - ac mae’n ddatblygiad sylweddol o gartograffeg draddodiadol.

Rydym yn gweithio ar brosiect a oedd â’r nod gwreiddiol o edrych ar sut gallem ymelwa ar fanteision data MasterMap ond o fewn y fformat mapio LandLine mwy traddodiadol. Set ddata gynhwysfawr yw LandLine sy’n dangos nodweddion a grëwyd gan bobl a nodweddion naturiol, o dai, ffatrïoedd, ffyrdd ac afonydd i gorstir a ffiniau gweinyddol, ac mae’r Gofrestrfa Tir yn ei defnyddio ar hyn o bryd i gynnal a datblygu’r Gofrestr Dir. Sefydlwyd y prosiect hwn i ddiogelu ein busnes rhag ofn i LandLine gael ei ddiddymu’n ddisymwth. Fodd bynnag, ers hynny, mae Arolwg Ordnans wedi dweud y bydd LandLine ar gael hyd y gellir ei ragweld. Mae hyn wedi rhoi cyfle i ni newid pwyslais y prosiect, i werthuso’n well y manteision y gall MasterMap eu cynnig i’n busnes o ran hygrededd data a chwilio gofodol.

Mae’r prosiect wedi nodi nifer o fanteision posib i brosesau busnes cyfredol a mentrau datblygu busnes arfaethedig. Rydym bellach yn archwilio newidiadau mwy pellgyrhaeddol i’n Strategaeth Gwybodaeth Ddaearyddol yn seiliedig ar fanteision busnes OS MasterMap.

Land Registry Annual Review 2004

Land Registry Annual Review 2004 - Inside Land Registry
Gwasanaeth cwsmeriaid a gweithrediadau

Llywodraethu corfforaethol

Cyllid

Adnoddau dynol

Systemau gwybodaeth

Cyfleusterau

Gwybodaeth ddaearyddol

Gwasanaethau cyfreithiol

Marchnata a chyfathrebu