Gwasanaethau cyfreithiol, deddfwriaeth a chydymffurfiaeth dechnegol
Rhyddid Gwybodaeth
Ar y cyfan, rwyf o’r farn bod y Tîm Prosiect Rhyddid Gwybodaeth wedi llwyddo i baratoi’r Gofrestrfa Tir ar gyfer Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Rydyn ni wedi hyfforddi ein staff i ymdrin â cheisiadau am wybodaeth ac wedi hysbysu ein cwsmeriaid am ein hymrwymiad trwy gyhoeddi cyfarwyddyd cyhoeddus.
Nod Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yw creu newid diwylliannol yn agwedd awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr tuag at y wybodaeth y maent yn ei dal neu y maent yn gyfrifol amdani. Daeth y Ddeddf i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2005.
Rydym wedi gwneud ein staff i gyd yn ymwybodol o’r Ddeddf trwy ddau fwletin a oedd yn darparu trosolwg o’r Ddeddf a chanllawiau ar sut i adnabod cais Rhyddid Gwybodaeth. Wrth ddychwelyd i’r gwaith ym mis Ionawr, gofynnwyd i bob aelod o staff gwblhau cyfres o fodiwlau hyfforddiant ar y Ddeddf cyn parhau â’u gwaith arferol. Yn dilyn yr hyfforddiant cyfreithwyr yn 2004, rhoddwyd 22 cyflwyniad ar y Ddeddf i grwpiau o staff ledled y sefydliad. Cafodd deunydd ymarfer a chyfarwyddiadau ymarfer mewnol i gyd eu hadolygu a, lle bo angen, eu diwygio fel eu bod yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf. Lle’r oedd ansicrwydd ynglŷn ag a ddylid datgelu gwybodaeth a oedd gan y Gofrestrfa Tir ai peidio, gofynnwyd i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am gyngor.
Rydym wedi hysbysu cwsmeriaid am ein hymrwymiad i ddarpariaethau’r Ddeddf trwy gyfarwyddyd cyhoeddus ac wedi rhoi posteri yn ein holl Ganolfannau Gwybodaeth Cwsmeriaid. Rydym hefyd wedi adolygu ein Cynllun Cyhoeddi bob blwyddyn ers i ni gael cymeradwyaeth y Comisiynydd Gwybodaeth ym mis Tachwedd 2002. Ni ystyriwyd bod angen gwneud unrhyw newidiadau i’r wyth dosbarth o wybodaeth a nodir yn y cynllun.