www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Gwasanaeth cwsmeriaid a gweithrediadau

Hygyrchedd a hyrwyddo dewis

Mae ein cwsmeriaid yn cynnwys pawb sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan ein gwaith: y proffesiwn cyfreithiol, sefydliadau ariannol a'r cyhoedd. Gall cwsmeriaid gysylltu â ni wyneb yn wyneb, dros y ffôn, ffacs, ebost a thrwy'r post.

Gall cwsmeriaid proffesiynol sydd â chyfrifon credyd gael mynediad i'r gwasanaethau yn electronig trwy'r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol a thrwy'r Gwasanaethau Ffôn. Mae Gwasanaethau Ffôn Cymru yn arbenigo mewn enwau lleoedd Cymraeg ac yn cynnig gwasanaeth Cymraeg.

Gall y cyhoedd gael gafael ar ein gwybodaeth yn electronig trwy'r Gofrestr Tir Ar-lein i weld/argraffu copïau o gofnodion ar y gofrestr (gan dalu â cherdyn credyd/debyd). Yn 2004, ehangwyd ein gwasanaeth fel bod modd cael gafael ar gynlluniau teitl yn ogystal â chofrestri.

Mae staff ein Canolfannau Gwybodaeth Cwsmeriaid yn cael eu hyfforddi i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid safonol i gwsmeriaid anabl a chwsmeriaid ag anghenion arbennig.

  • Mae hygyrchedd Canolfannau Gwybodaeth Cwsmeriaid yn cael ei archwilio (ac mae ganddynt fynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn).
  • Gall staff ddarparu Iaith Arwyddion Prydain.

  • Ar gyfer cwsmeriaid byddar neu drwm eu clyw, rydym yn darparu gwasanaeth ffôn testun ar rif rhadffôn ac yn croesawu galwadau trwy Typetalk.
  • Rydym yn darparu dogfennau/canllawiau mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys Braille, print bras a thâp sain.

Rydym yn defnyddio holiaduron adborth cwsmeriaid i asesu'r galw am wybodaeth mewn ieithoedd ar wahân i'r Gymraeg a'r Saesneg ac mae gennym gronfa ddata o staff sy'n gallu siarad ieithoedd eraill. Gallwn gyflenwi taflenni gwybodaeth am ein gweithdrefn gwyno; am y wybodaeth sydd gennym; a sut i gael gafael ar y wybodaeth honno, mewn ieithoedd eraill ar gais.

Land Registry Annual Review 2004

Land Registry Annual Review 2004 - Inside Land Registry
Gwasanaeth cwsmeriaid a gweithrediadau

Llywodraethu corfforaethol

Cyllid

Adnoddau dynol

Systemau gwybodaeth

Cyfleusterau

Gwybodaeth ddaearyddol

Gwasanaethau cyfreithiol

Marchnata a chyfathrebu