Gwasanaeth cwsmeriaid a gweithrediadau
Unioni pethau
Mae pethau yn mynd o chwith o bryd i’w gilydd ac efallai y byddwn yn gwneud camgymeriadau y tro cyntaf. Rydym yn croesawu cwynion.
Mae cwynion yn ein helpu i nodi bylchau neu ddiffygion yn y ddarpariaeth gwasanaeth ac yn arwain at welliannau. Caiff cwsmeriaid eu hysbysu am welliannau a wneir mewn ymateb i gwynion naill ai’n uniongyrchol neu drwy ein cylchlythyr cwsmeriaid, Landnet. Caiff gwybodaeth am welliannau ei chyhoeddi yn yr adroddiad byr sy’n cyd-fynd â’n harolwg cwsmeriaid blynyddol ac mewn erthyglau rheolaidd yn y Law Society Gazette hefyd.
Yn 2004-05, cawsom 2,579 o gwynion (wedi gostwng 9.5 y cant), ac ymatebwyd i 92 y cant ohonynt o fewn ein targed pum diwrnod (i fyny o 88 y cant).