Gwasanaeth Cwsmeriaid a Gweithrediadau
Gwasanaethau Ffôn
Roedd y Gwasanaethau Ffôn, gwasanaeth tanysgrifio ar gyfer cwsmeriaid proffesiynol, wedi profi rhai problemau gwasanaeth a seilwaith yn y blynyddoedd diwethaf, ond aethom ati i fuddsoddi llawer o arian mewn system llwybro galwadau newydd a lleihawyd yr amser yr oedd yn ei gymryd i ateb galwadau o ganlyniad. Cafwyd gwelliant yn y bodlonrwydd cyffredinol, gyda hanner yr holl gwsmeriaid yn fodlon iawn â’r gwasanaeth.
- 99 y cant yn fodlon iawn/bodlon â chwrteisi a pharodrwydd i helpu staff y Gwasanaethau Ffôn.
- 98.7 y cant yn fodlon iawn/bodlon â’r wybodaeth a roddir gan y Gwasanaethau Ffôn