Gwasanaeth cwsmeriaid a gweithrediadau
Gwasanaeth Cymraeg
Ein nod yw darparu gwasanaeth o’r un safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Caiff pob templed cofrestr a gynhyrchir yng Nghymru ei argraffu’n ddwyieithog.
- Mae pob pennawd a gwybodaeth sylfaenol ar gofrestri teitlau yng Nghymru yn ymddangos yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Mae cofnodion unigol yn ymddangos yn iaith (Cymraeg neu Saesneg) y ddogfen wreiddiol.
- Rydym yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar y ffôn, mewn gohebiaeth ysgrifenedig ac yn y canolfannau gwybodaeth cwsmeriaid a Gwasanaethau Ffôn.
- Mae gennym staff sy’n siarad Cymraeg a, phan fo angen, cyfieithwyr allanol.
- Mae’r Gofrestrfa Tir yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn gohebu yn y Gymraeg â phobl y gwyddom sydd am ohebu yn y Gymraeg.
- Mae’r Gofrestrfa Tir yn croesawu llythyron/ffacsiau/negeseuon ebost yn y Gymraeg ac yn ysgrifennu yn y Gymraeg at y bobl hynny sy’n well ganddynt ohebu yn y Gymraeg.
- Ceir fersiwn Cymraeg o’n gwefan www.cofrestrfatir.gov.uk
Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Cydlynydd yr Iaith Gymraeg
Swyddfa Cymru
Tŷ Cwm Tawe
Ffordd y Ffenics
Llansamlet
Abertawe SA7 9FQ