Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Rhagair: Y Prif Gofrestrydd a Phrif Weithredwr

Dyfodol disglair i'r Gofrestrfa Tir

Rwyf i, a’m cyd-gyfarwyddwyr, yn hynod falch o’r hyn oll a gyflawnodd y Gofrestrfa Tir y llynedd. Yn 2004-05, roedd 98.5 y cant o’n cwsmeriaid yn fodlon/bodlon iawn â’n gwasanaethau ac roedd 80 y cant o gwsmeriaid o’r farn ein bod yn well/llawer gwell na chwmnïau’r sector preifat y maent yn delio â nhw.

Dyma a wnaethom yn ystod y flwyddyn:

  • ymdrin â dau y cant yn fwy o waith nag yn 2003-04, a hynny’n gyflymach nag erioed, lleihau nifer yr achosion heb eu prosesu a lleihau amseroedd prosesu
  • lansio’r Gofrestr Tir Ar-lein sydd wedi ei hanelu at y cyhoedd; sefydlu ein gwasanaeth rhyddhau morgeisi electronig uniongyrchol; cwblhau’r gwaith o sganio’r dogfennau hanesyddol y cyfeirir atynt ar y Gofrestr Tir; a lansio cynllun peilot lle gall ymarferyddion gyflwyno rhai ceisiadau penodol i ni yn electronig trwy'r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
  • ennill y Nod Siarter am y pumed tro, sy’n record
  • rhoi ar waith fesul cam ein menter ‘llwybrau hyfforddiant’ ar gyfer swyddogion cofrestru gweithredol a lansio ein rhaglen Arweinwyr y Dyfodol
  • cwblhau adeilad mawreddog newydd yn Plymouth ar gyfer ein Grŵp Gwasanaethau Gwybodaeth a gwneud cynnydd yn y gwaith o adeiladu ein trydedd ganolfan gyfrifiaduron.

Mewn gwirionedd, efallai na fyddwn yn cael mwy o waith yn 2005-06 nag y cawsom yn 2004-05. Felly, rydym wedi pennu cyllidebau darbodus iawn, wedi ymdrechu’n fwy caled nag erioed i annog ceisiadau gwirfoddol; ac wedi mynd ati i hyrwyddo gwasanaethau sy’n annog gweithwyr eiddo proffesiynol a’r cyhoedd i ddefnyddio ein data.

Beth bynnag yw amodau’r farchnad yn y tymor byr – mae dyfodol y Gofrestrfa Tir yn un disglair. Dylai ein system e-drawsgludo drawsnewid y profiad o brynu a gwerthu tŷ. Ar hyn o bryd, rydym yn brysur yn chwilio am gyfleoedd pellach i ddarparu gwasanaethau newydd a fydd o fantais i gwsmeriaid proffesiynol a phreifat fel ei gilydd.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant ysgubol 2004-05: ein cwsmeriaid, ein partneriaid busnes; ein gweinidogion; ein budd-ddeiliaid eraill. Ac yn olaf, ond nid yn lleiaf – ein staff gwych sydd bob amser yn ymateb i’r her. Hoffwn ddiolch yn gynnes a diffuant iddynt oll.

Peter Collis
Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr

Land Registry Annual Review 2004