Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Perfformiad, cynnydd tuag at amcanion stragegol a strategaeth y dyfodol

Pridiannau tir a chredydau amaethyddol

Mae’r Adran Pridiannau Tir yn gweithredu dan awdurdod Deddf Pridiannau Tir 1972. Mae’n cynnal cofrestri o Bridiannau Tir, achosion cyfreithiol, gwritiau a gorchmynion sydd ar droed sy’n effeithio ar dir a llyffetheiriau eraill sydd wedi eu cofrestru yn erbyn perchnogion eiddo nad yw wedi ei gofrestru dan y Deddfau Cofrestru Tir.

Mae Credydau Amaethyddol yn gyfrifol am gynnal cofrestr o fenthyciadau tymor byr gan fanciau dan Ran II Deddf Credydau Amaethyddol 1928. Stoc ffermio ac asedau amaethyddol eraill y ffermwr yw’r sicrwydd ar gyfer y taliadau hyn.

Eleni, bu’r Adrannau Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol yn ymdrin â 5,154,039 o geisiadau (wedi lleihau 14.6 y cant). Y prif reswm dros y lleihad oedd cwymp yn y farchnad eiddo.

Cynyddodd ceisiadau am chwiliadau a chopïau swyddfa a wnaed dros y ffôn, trwy fynediad uniongyrchol a thros y ffacs i 69 y cant o’r cyfanswm blynyddol (i fyny naw y cant), gyda 84 y cant o geisiadau copi swyddfa yn cael eu gwneud fel hyn. Mae 18 y cant o chwiliadau Pridiannau Tir bellach yn cael eu prosesu trwy’r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol. Lleihaodd cyfran chwiliadau ffôn o gyfanswm y ceisiadau chwilio a dderbyniwyd i 51 y cant (i lawr o 54 y cant).

 

 

Land Registry Annual Review 2004

Targedau perfformiad allweddol 2004-05

Mesurau perfformiad busnes ehangach

Darpariaeth gwasanaeth gwell
Deddfwriaeth eilaidd well
Cynnwys a chwmpas cynhwysfawr erbyn 2012
Trafodion electronig newydd o 2005 (e-drawsgludo)
Gwasanaethau allweddol ar-lein erbyn 2005 (e-fusnes)
Gwasanaethau data tryloyw gwell o 2003
Gwasanaethau cyhoeddus pellach gan ddefnyddio ein sgiliau, data ac adnoddau ni ein hunain

Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol