Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Perfformiad, cynnydd tuag at amacanion strategol a strategaeth y dyfodol

AMCAN STRATEGOL 3: Creu Cofrestr Tir â chynnwys cynhwysfawr a chwmpas cenedlaethol erbyn 2012

Yn ystod 2004-05, penodwyd rheolwyr datblygu’r gofrestr ym mhob swyddfa leol i hyrwyddo cofrestru gwirfoddol i ddarpar gwsmeriaid a chyfleu pwysigrwydd y dasg i staff y Gofrestrfa Tir. Mae nifer y cwsmeriaid ar gyfer cofrestriadau cyntaf gwirfoddol posib wedi cynyddu i dros 800.

  • Lle mae awdurdodau lleol/tirfeddianwyr mawr eraill am gynnal rhaglenni cofrestru strategol ond nad oes ganddynt yr adnoddau i wneud hynny, mae staff y Gofrestrfa Tir yn gweithio gyda chwsmeriaid yn eu swyddfeydd.
  • Wedi cyfarfod ag amrywiaeth o dirfeddianwyr mawr, gan gynnwys Ystâd y Goron, Awdurdod Porthladd Llundain, Imperial College, cwmnïau cyfleustodau, Parc Cenedlaethol y Peak District, yr Asiantaeth Priffyrdd, Ystâd Blenheim, Christ Church Oxford, Boots ccc ac eraill.
  • Wedi rhoi cyflwyniadau i Lawrence Graham Solicitors, y Gymdeithas Tir a Busnes Gwledig, y Gymdeithas Eiddo Elusennau a Chymdeithas y Gyfraith Eglwysig.
  • Wedi cyhoeddi erthygl yng Nghylchlythyr y Comisiwn Elusennau  ac yn sgil hynny, cysylltodd dros 150 o elusennau â Thîm canolog Datblygu’r Gofrestr.
  • Wedi cyhoeddi erthygl yng nghyfnodolyn Adran Eiddo Cymdeithas y Cyfreithwyr i annog cyfreithwyr sydd â chleientiaid yn berchen ar ddaliadau tir mawr i ystyried cofrestru’n wirfoddol.
  • Ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol ac Arglwydd Ganghellor at brif adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth sy’n dal tir er mwyn cofrestru eu hystadau a bydd yn parhau â’r gwaith gyda phob adran/asiantaeth.
  • Wedi cynhyrchu pecyn marchnata a thaflen ffeithiau ar gyfer darpar gwsmeriaid ac yn datblygu ymgyrch farchnata genedlaethol.
  • Dylai datblygiadau technegol, megis y gallu i dderbyn ac anfon data mapio electronig, wneud ceisiadau’r dyfodol yn haws ac yn symlach i gwsmeriaid.
Land Registry Annual Review 2004

Targedau perfformiad allweddol 2004-05

Mesurau perfformiad busnes ehangach

Darpariaeth gwasanaeth gwell
Deddfwriaeth eilaidd well
Cynnwys a chwmpas cynhwysfawr erbyn 2012
Trafodion electronig newydd o 2005 (e-drawsgludo)
Gwasanaethau allweddol ar-lein erbyn 2005 (e-fusnes)
Gwasanaethau data tryloyw gwell o 2003
Gwasanaethau cyhoeddus pellach gan ddefnyddio ein sgiliau, data ac adnoddau ni ein hunain

Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol