Perfformiad, cynnydd tuag at amcanion strategol a strategaeth y dyfodol
Darpariaeth gwasanaeth gwell
AMCAN STRATEGOL 1: Cyflwyno, yn raddol, welliannau yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid.
Yn Ebrill 2004, ychwanegwyd gwasanaeth newydd at y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol, sef y gwasanaeth rhyngrwyd ar gyfer ein cwsmeriaid proffesiynol. Mae hyn yn galluogi ein cwsmeriaid i wneud cais am gopi swyddogol electronig o gofrestr i’w argraffu yn eu swyddfa - ac mae wedi bod yn hynod boblogaidd.
Am y tro cyntaf, ddarpawyd gwybodaeth am gofrestru tir i’r cyhoedd ar y rhyngrwyd trwy lansio’r Gofrestr Tir Ar-lein.
Rydym hefyd wedi gwella ein gwasanaethau ffôn. I wella amseroedd ateb galwadau, gwnaed buddsoddiad mawr mewn system llwybro galwadau newydd a gafodd ei gweithredu’n llawn ddechrau 2004. Mae wedi lleihau’n sylweddol yr amser y mae’n rhaid i gwsmeriaid ddisgwyl am ateb i’w galwadau gyda thros 95 y cant o alwadau’n cael eu hateb o fewn 30 eiliad, o gymharu â 56 y cant yn cael eu hateb o fewn tair munud y flwyddyn gynt.
Yn ogystal, rydym wedi galluogi galwyr sydd am drafod eu busnes yn y Gymraeg i gael eu trosglwyddo’n syth at weithiwr sy’n siarad Cymraeg.