Perfformiad, cynnydd tuag at amcanion strategol a strategaeth y dyfodol
AMCAN STRATEGOL 5: Darparu holl wasanaethau allweddol y Gofrestrfa Tir ar-lein erbyn 2005 (e-fusnes)
Eleni, rydym wedi sylwi ar newid pendant yn y modd mae ein cwsmeriaid yn gwneud busnes gyda ni.
- Ers Gorffennaf 2004, mae cyfanswm incwm ffïoedd ein e-wasanaethau (Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol, Y Gofrestr Tir Ar-lein a’r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol) wedi bod yn fwy nag incwm ffioedd y Gwasanaethau Ffôn.
- Ym mis Mawrth 2005, roedd incwm ffïoedd dyddiol y Gwasanaethau Ffôn yn £58,476, o gymharu ag incwm ffïoedd dyddiol o £117,969 ar gyfartaledd gan yr holl e-wasanaethau.
- Ym mis Medi 2004, cafodd y canran uchaf erioed (43.8 y cant) o chwiliadau eu cyflawni trwy e-wasanaethau.
- Rydym hefyd wedi gweld twf cyson ym mhoblogrwydd e-wasanaethau ar gyfer copïau swyddogol, a chwiliadau o’r map mynegai i raddau llai.
Y Gofrestr Tir
Cafodd y gofrestr olaf ei gwneud yn un gyfrifiadurol yn 2003-04, felly mae’r Gofrestr Tir yn gwbl electronig bellach. Mae’n galluogi ein cwsmeriaid i gael mynediad i’n cofnodion yn electronig trwy ddau brif e-wasanaeth: y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol ar gyfer ein cwsmeriaid busnes sydd â chyfrif; a’r Gofrestr Tir Ar-lein ar gyfer y cyhoedd. Mae’r Gofrestr Tir yn cynnwys bron i 20 miliwn o deitlau cofrestredig.
Y Gofrestr Tir Ar-lein
Cafodd y Gofrestr Tir Ar-lein ei lansio’n swyddogol ar 31 Ionawr 2005. Mae’r gwasanaeth yn rhan o’n polisi i ddarparu dewis i’n cwsmeriaid wrth gael gwybodaeth am gofrestru tir. Mae’n cyd-fynd â pholisi’r Llywodraeth i roi gwasanaethau cyhoeddus ar y rhyngrwyd ac yn gam pellach at darged 2005 y Prif Weinidog i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn electronig.
Mae’r Gofrestr Tir Ar-lein yn galluogi cwsmeriaid i weld ac argraffu cofrestri a chynlluniau teitl am £2 y trafodiad, sy’n daladwy gan gerdyn credyd. Mae’n hygyrch i borwyr sy’n cydymffurfio â W3C a thechnoleg Apple Mac, felly mae’n gwbl hygyrch. Yn ogystal, gall cwsmeriaid ddewis defnyddio’r wefan yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Yn ystod y cyfnod peilot, cafodd dros 560,000 o ddogfennau eu llwytho i lawr trwy'r gwasanaeth, 1,500 y dydd ar gyfartaledd. Ar ôl ei lansio ym mis Ionawr, cynyddodd y galw am y Gofrestr Tir Ar-lein yn ddramatig a diwedd mis Mawrth, roedd 2,637 o drafodion yn cael eu cyflawni bob dydd ar gyfartaledd. Cyrhaeddodd y galw am y Gofrestr Tir Ar-lein uchafbwynt ddiwedd Ionawr 2005 pan lansiwyd y gwasanaeth llawn, gyda 5,799 o drafodion y dydd ar gyfartaledd.
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Gwasanaeth cyfrif credyd ar gyfer ein cwsmeriaid busnes yw’r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol. Rhaid bod gan gwsmeriaid gyfrif credyd gyda’r Gofrestrfa Tir a rhaid iddynt gofrestru fel defnyddwyr.
Cafodd fersiwn rhyngrwyd gwell a mwy dibynadwy o’r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol ei gyflwyno’n llwyddiannus eleni. Mae nifer y deiliaid cyfrif wedi cynyddu’n sylweddol i 8,677 (i fyny o 4,962) gyda defnyddwyr unigol yn cynyddu o 20,000 i 70,000.
Ers Medi 2004, gall cwsmeriaid wneud cais i dderbyn tystysgrifau Pridiannau Tir o ganlyniadau chwiliad yn electronig fel ffeiliau PDF yn hytrach na thystysgrifau papur. Mae’r rhain wedi eu cyfyngu i chwiliadau a wneir yn erbyn unigolion preifat a/neu gwmnïau cyfyngedig.
Roedd incwm ffïoedd misol y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol yn fwy na £2 miliwn ym mis Mawrth 2005. Proseswyd 50,788 o drafodion y dydd ar gyfartaledd (i fyny 46 y cant o 34,647).
Rydym wedi parhau i ychwanegu cyfleusterau newydd, fel chwiliadau o’r mynegai rhyddfreintiau a maenorau (a ddaeth i’r fei dan ddeddfwriaeth 2003). Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol fydd ein prif lwyfan ar gyfer lansio gwasanaethau e-drawsgludo dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys gwelliannau e-gyflwyno, dilysu dogfennau Isadeiledd Allwedd Cyhoeddus ac ymholiadau ar sail mapiau.
Y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS)
Gwasanaeth masnachol yw NLIS sydd â thair sianel yn cynnig trawsgludo ar-lein a chwiliadau eraill ar y rhyngrwyd i gyfreithwyr a thrawsgludwyr trwyddedig ledled Cymru a Lloegr. Mae’r sianeli’n cystadlu yn y farchnad ac yn gwahaniaethu eu gwasanaethau trwy becynnu a chyflwyno’r wybodaeth i weddu i’w cynulleidfa darged. Caiff chwiliadau eu hanfon yn electronig, a chanlyniadau eu derbyn, trwy ganolbwynt NLIS, sy’n borth i wybodaeth a gwasanaethau nifer o ddarparwyr data. Mae hefyd yn cynnig gwasanaethau olrhain chwiliadau, anfon biliau a gwneud taliadau. Mae’r Gofrestrfa Tir yn parhau i fod yn un o brif ddarparwyr data NLIS. Ym mis Medi 2004, ychwanegwyd chwiliadau Pridiannau Tir a gwasanaeth e-ddarparu dogfennau at wasanaethau NLIS.
Mae dros dair miliwn o chwiliadau wedi eu gwneud trwy NLIS bellach. Mewn un flwyddyn yn unig, mae NLIS wedi prosesu dros ddwy filiwn o chwiliadau (i fyny o’r filiwn a broseswyd yn y ddwy flynedd gyntaf) oherwydd cynnydd yn y defnydd o’r gwasanaeth gan y proffesiwn cyfreithiol.
Ym mis Mawrth 2005:
- roedd NLIS yn prosesu gwerth £13,785 o drafodion y dydd ar gyfartaledd
- cafwyd yr incwm ffïoedd misol uchaf erioed - £289,491
- proseswyd y nifer fwyaf erioed o drafodion mewn mis – 109,058
Copïau swyddogol o’r gofrestr yw 50 y cant o fusnes gyda chwiliadau swyddogol yn 19 y cant ohono bellach, sy’n adlewyrchu’r ffaith mai ymarferyddion yw nifer helaeth o’r cwsmeriaid.
Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Ewrop (EULIS)
Gweledigaeth EULIS yw rhoi mynediad i wybodaeth ar draws ffiniau Ewropeaidd ar y rhyngrwyd, gan greu amgylchedd gwell ar gyfer gweithwyr eiddo a chyllid proffesiynol, yn ogystal â’r cyhoedd.
Dechreuodd y prosiect EULIS cyntaf ym mis Ionawr 2002 a daeth i ben ym Mehefin 2004 gyda chyfres o seminarau i lansio cam nesaf y rhaglen EULIS. Ein Gweinidog ar y pryd, David Lammy AS, roddodd yr anerchiad agoriadol yn y seminar terfynol yn Llundain, a oedd yn cael ei ystyried yn lansiad EULIS ledled Ewrop.
Cynrychiolwyr o Gofrestrfeydd Tir wyth gwlad Ewropeaidd yw’r aelodau gan fwyaf (Sweden, Norwy, Y Ffindir, Lithwania, Awstria, Yr Iseldiroedd, Yr Alban, a Chymru/Lloegr) a Phrifysgol Lund.
Ym mis Rhagfyr 2004, llwyddasom i gyflawni un o’n targedau perfformiad allweddol trwy ryddhau data’r Gofrestrfa Tir i fodel arddangos EULIS – dyma oedd Cam 1 Prosiect Uniongyrchol EULIS.
Yng Ngham 2 y Prosiect, byddwn yn ceisio rhoi mynediad ar-lein diogel i holl aelod-wladwriaethau EULIS i ddata’r holl wledydd eraill sy’n rhan o’r prosiect. Byddwn yn talu sylw arbennig i ddiogelwch a throsi o arian un wlad i’r llall. Bydd y cam hwn yn cael ei weithredu ddiwedd 2005 a dechrau 2006, ar yr amod bod yr holl wledydd dan sylw wedi gwneud cynnydd boddhaol yn y gweithgareddau datblygu ar y cyd angenrheidiol. Norwy fydd â gofal porthol EULIS a fydd yn sianeli’r holl drafodion.
Sganio gweithredoedd
Ym mis Hydref 2004, cwblhawyd prosiect hirdymor i sganio ein ffeiliau y Cyfeirir Atynt ar y Gofrestr (RR). Dyma un o’r prosesau sganio mwyaf o’i math a chafodd dros 12 miliwn o ddogfennau (tua 100.4 miliwn o dudalennau) eu sganio. Ers i’r prosiect ddechrau ym 1998, mae tua 120 o staff y Gofrestrfa Tir wedi gweithio gyda’r contractwyr, Cendris, mewn partneriaeth lwyddiannus rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Mae’r gwaith o sganio deunydd newydd yn parhau ond mae cwblhau’r prosiect cychwynnol hwn yn gamp bwysig gan bawb dan sylw ac mae’n golygu bod staff a chwsmeriaid yn gallu gweld pob ffeil RR yn electronig.