Perfformiad, cynnydd tuag at amcanion strategol a strategaeth y dyfodol
AMCAN STRATEGOL 4: Hyrwyddo a chyflwyno’n raddol, drafodion electronig newydd ar gyfer tir ac eiddo o 2005 (e-drawsgludo)
Mae ein Tasglu E-drawsgludo yn datblygu system electronig i helpu gyda’r gwaith o brynu, gwerthu a chofrestru tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr. Bydd yn galluogi pobl i weld gwybodaeth am gadwyni a hefyd yn caniatáu i drafodion yn y gadwyn ddigwydd ar yr un pryd, gyda chofrestru awtomatig adeg cwblhau. Bydd hyn yn helpu i leihau’r oedi a’r gofid sy’n gysylltiedig â’r broses prynu tŷ.
Cymeradwyodd Gweinidog y Gofrestrfa Tir ar y pryd, David Lammy AS, ein cyflwyniad ar y ffordd ymlaen ar gyfer trawsgludo electronig ar 20 Ebrill 2004. Yn awr, byddwn yn adeiladu ac yn rheoli isadeiledd e-drawsgludo canolog a sianel darparu gwasanaeth. Rydym yn ceisio cael gwasanaethau contractwr TG ar hyn o bryd i’n cynorthwyo gyda’r gwaith.
Buom yn cyfarfod darpar gwsmeriaid ym mis Tachwedd 2004 i’n helpu i nodi pa rai o’r gwasanaethau arfaethedig fyddai’n fwyaf deniadol ac yn fwyaf defnyddiol iddynt. Mae hwn wedi rhoi gwybodaeth hollbwysig am yr hyn a fyddai’n sicrhau bod pobl yn dechrau defnyddio’r gwasanaeth yn y dyddiau cynnar ac yn parhau i wneud hynny, a hefyd am gynllun, blaenoriaeth, adeiladwaith a gweithredu’r gwasanaeth. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn diweddaru ein cynlluniau a’r ddadl o blaid y rhaglen o safbwynt busnes yn unol â’r wybodaeth hon.
Deddf Cofrestru Tir 2002 oedd y ddeddfwriaeth allweddol sydd wedi gwneud e-drawsgludo’n bosib. Mae prosiect deddfwriaeth eilaidd wedi ei sefydlu i fynd i’r afael â’r elfennau manwl a ragwelwyd gan y Ddeddf ac sy’n angenrheidiol i ddatblygu e-drawsgludo. Bydd prosiectau ymgynghori ffurfiol yn llywio’r broses. Cyhoeddwyd Hysbysiadau Rheol 14 mewn pryd i alluogi’r cynllun e-gyflwyno peilot (ar gyfer ffurflenni a gweithredoedd). Mae gweithgor, sy’n cynnwys cynrychiolydd o’r Adran dros Faterion Cyfansoddiadol, wedi ei sefydlu i benderfynu ar y rheolau sydd eu hangen ar gyfer e-lofnodion ac e-warediadau.
Cafodd y prosiect peilot e-ryddhau ei gwblhau’n llwyddiannus, a dechreuwyd rhoi’r gwasanaeth ar waith fesul cam ym mis Medi 2004. Mae’n galluogi rhoddwyr benthyg i ddiweddaru ein cofnodion yn electronig ar ôl i berchnogion eiddo dalu eu morgais.
Lansiwyd cam cyntaf ac ail gam y prosiect peilot e-gyflwyno (ffurflenni a gweithredoedd) ar 14 Chwefror 2005 a 21 Mawrth 2005, yn ôl y bwriad.
Rydym yn rhagweld y bydd Gwasanaeth Trosglwyddo Arian Electronig yn cael ei ddarparu gan ‘Fanc Asiant’ a fydd yn cael ei benodi ar ôl ymarfer caffael wedi ei negodi. Cyhoeddwyd dogfen drafod i fudd-ddeiliaid ddechrau 2004. Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Swyddfa Masnachu Teg ynglŷn â chael un banc asiant, cawsom gyngor gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), Banc Lloegr, Trysorlys EM a’r Cwnsler Arweiniol. Maent i gyd yn cefnogi ein cynigion ar y cyfan.
Rydym wedi dechrau prosiect dilysu dogfennau er mwyn datrys problem e-lofnodion. Rydym wedi prynu’r caledwedd a’r meddalwedd angenrheidiol i ddechrau prototeipio e-lofnodion. Mae disgwyl i’r gwaith gymryd chwe mis.
Bydd y gadwyn matrics yn rhan allweddol o’r gwasanaeth e-drawsgludo newydd. Cynhaliwyd tri fforwm ar ddeg ym mis Chwefror 2005 i ganfod anghenion a dyheadau budd-ddeiliaid. Rydym yn coladu’r canlyniadau er mwyn paratoi’r diffiniad manwl o gamau cychwynnol y gwasanaeth cadwyn matrics.